Rhybudd gallai ffermwyr Cymru gael eu gadael ar ôl heb fynediad at dechnoleg newydd

Cnydau

Gallai ffermwyr Cymru gael eu gadael ar ôl o gymharu â gweddill y DU oherwydd diffyg mynediad at dechnoleg golygu genynnau, yn ôl NFU Cymru.

Mae’r undeb yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ganiatáu defnyddio technegau bridio manwl, gan gynnwys golygu genynnau.

Mae’r dechnoleg yn galluogi gwyddonwyr i wneud newidiadau bach i DNA planhigion neu anifeiliaid, heb ychwanegu genynnau o rywogaethau eraill.

Dywedodd yr Athro Huw D Jones sy'n arbenigwr yn y maes ac yn gadeirydd Genomeg Trosiadol ar gyfer Bridio Planhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth, y gallai’r sefyllfa yng Nghymru olygu y bydd ffermwyr yn cael eu “hamddifadu o’r mathau gorau o gnydau yn y dyfodol”.

Yn Lloegr, mae'r Ddeddf Technoleg Genetig (Bridio Manwl) 2023 yn ei gwneud hi'n haws profi a defnyddio rhai o’r cnydau hyn.

Ond yng Nghymru, maent yn dal i gael eu dynodi fel GMOau (organeb wedi’i haddasu’n enetig), sy’n golygu ei bod yn “amhosibl eu ffermio yma” ar hyn o bryd, yn ôl yr Athro Jones.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd fod bridio planhigion traddodiadol yn “araf ac anfanwl”, tra bod y dull newydd yn galluogi “newidiadau targedig” ac yn “cyflymu gwelliant cnydau”.

Ychwanegodd fod enghreifftiau cynnar yn cynnwys gwenith â lefelau is o acrylamid, tomatos â mwy o Fitamin D, a thatws sy’n gwrthsefyll clefydau.

Yn eu maniffesto, ‘Ffermio Cymru: Tyfu Ymlaen’, mae NFU Cymru yn dweud y gallai’r dechnoleg helpu i greu system fwyd sy’n fwy cyfeillgar i’r hinsawdd ac yn fwy gwydn i dywydd eithafol.

Ymateb

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn “cefnogi mabwysiadu technolegau bridio cnydau manwl er mwyn gwella cynhyrchiant”.

“Mae’n bwysig nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ôl o gymharu â gweddill y DU. Bydden ni’n gweithio’n agos gyda ffermwyr, gwyddonwyr a’r diwydiant yn ehangach er mwyn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng arloesedd a safonau bwyd, tra’n cefnogi amaethyddiaeth Cymru i fod yn gystadleuol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur bod polisïau yng Nghymru yn cael eu teilwra ar gyfer “blaenoriaethau a gofynion Cymreig" ac mai dyna yw pwrpas datganoli.

“Tu hwnt i dreialu a pheilota, mae cymhwysedd cyfyngedig i fridio manwl yng Nghymru o’i gymharu â’r hyn sydd ar gael dros y ffin. Byddai Llywodraeth Lafur nesaf Cymru yn parhau i adolygu hyn.”

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn cefnogi’r defnydd o olygu genynnau fel rhan o greu system fwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd.

“Mae golygu genynnau yn cynyddu'r gyfradd y mae genynnau yn croesbeillio, proses sy'n cyflawni'r hyn sydd eisoes yn digwydd ym myd natur. Gall y dechnoleg hon hefyd gynyddu amrywiaeth planhigion er mwyn wynebu heriau newid hinsawdd.

“Tra bod Reform UK yn gwadu bodolaeth newid hinsawdd, bydd Plaid Cymru yn gwneud gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn flaenoriaeth ar draws llywodraeth, gan gyflwyno Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur newydd i lunio llwybr at Sero Net erbyn 2040.”

Mae Newyddion S4C wedi holi am ymateb gan y Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.