Drama newydd yn cynnig 'sgwrs gyhoeddus am iechyd meddwl yn y byd amaeth'

Elis Pari

Mae drama newydd a fydd yn cael ei pherfformio ar fferm weithredol ym Mhen Llŷn yn cynnig 'sgwrs gyhoeddus am iechyd meddwl yn y byd amaeth' yn ôl cyfarwyddwr y cynhyrchiad. 

Bydd y ddrama 'Praidd' gan Gwmni'r Frân Wen yn cael ei pherfformio ar fferm fyw yn Aberdaron y penwythnos nesaf, sef fferm deuluol y cyfarwyddwr Elis Pari. 

Daw hyn wrth i un elusen sy'n cefnogi ffermwyr a'u teuluoedd ar draws Cymru ddweud eu bod wedi profi'r nifer uchaf o alwadau yn eu hanes ym mis Mawrth eleni. 

Dywedodd Rheolwr Achos gyda'r elusen Tir Dewi, Wyn Thomas wrth Newyddion S4C mai mis Mawrth oedd "y mis lle ni wedi cael y nifer fwyaf o achosion newydd yn ein hanes ni."

Mae drama Praidd yn dilyn hanes Dafydd, ffermwr ifanc sy'n gorfod cymryd awenau'r fferm deuluol yn gynt na'r disgwyl, ac sy'n gorfod wynebu'r heriau yn sgil hynny. 

Dywedodd Elis Pari wrth Newyddion S4C: "Mae hi hefyd yn mynd i mewn i rôl cymuned o fewn ffarmio lleol, pa rôl mae cymuned wedi'i chwarae, pa rôl ma cymuned yn chwarae rŵan hefyd."

Image
Cast cymunedol Praidd
Y cast yn ymarfer ar y fferm

Ag yntau wedi ei fagu ar y fferm, ychwanegodd Elis bod cael y cyfle i lwyfannu'r ddrama ar dir ei deulu yn deimlad "swreal".

"Mae o jyst yn fraint masif achos ma' hwn 'di bod yn freuddwyd i fi i gael neud y darn o waith yma yn gyhoeddus i gynulleidfa i'r ardal ac i gael neud hwnna adra wedyn efo cymorth fy nheulu tu ôl i fi yn fy annog i neud o, ma'n meddwl lot," meddai. 

"Ma' nhw 'di bod yn wych, fydda i mewn dyled iddyn nhw am yn hir iawn a ma' nhw jyst 'di bod mor gefnogol.

Ychwanegodd: "Er bod o'n freuddwyd, mae o wastad wedi teimlo yn rwbath ar adega dwi 'di bod ofn gwneud hefyd am fod o'n bwnc mor agos i fy nghalon ac i gymaint o bobl eraill yn y gymuned, ond dwi'n teimlo weithia bo' hwnna'n gallu bod yn arwydd da, bod angen gwneud o.

"Ma' hi'n fferm weithredol a dyna 'dan ni isio hi fod, 'dan ni isio'r gynulleidfa i deimlo fa'tha bo' nhw ar ffarm go iawn sy'n cael ei rhedeg gan y cymeriad ffuglennol Dafydd, so troi fferm Carreg yn fferm Cae Goch am benwythnos, a dan ni isio fo deimlo mor authentic â phosib, o'r synau i'r ogla."

Image
Bydd Praidd yn cael ei pherfformio'r penwythnos nesaf.
Bydd Praidd yn cael ei pherfformio'r penwythnos nesaf

Mae'r cynhyrchiad wedi derbyn cefnogaeth gan Sefydliad y DPJ, sef elusen iechyd meddwl i gynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai yn y byd amaeth. 

Yn ôl Elis, mae'r gefnogaeth gan yr elusen wedi bod yn allweddol i'r ddrama. 

"Fedra i ddim ond siarad am gymuned Pen Llŷn yn yr achos yma ond ma'r DPJ 'di bod yn neud gwaith mor anhygoel ac yn cynnig gwasanaeth sydd mor anhygoel i amaethwyr sydd yn stryglo," meddai. 

"Ond dwi wirioneddol yn gobeithio bod hwn yn gyfle i gael sgwrs gyhoeddus am y peth a bo' ni ddim yn cuddio ohona fo a bod o yna i'w drafod a bod hi'n sgwrs gymunedol."

Dywedodd Kate Miles, Rheolwr Elusen Sefydliad y DPJ wrth Newyddion S4C: "Pan y gwnaeth Elis ddod atom ni yn wreiddiol am y prosiect, roedd o'n rhywbeth gwahanol, yn ffordd o gyrraedd cynulleidfaoedd drwy'r celfyddydau.

"Beth oedden ni'n gallu ei wneud oedd darparu'r perspectif iechyd meddwl, y realiti o beth mae ffermwyr yn ei wynebu, a'r hyn yr ydyn ni'n ei glywed a'i weld gan y ffermwyr sy'n siarad â ni. "

Fe wnaeth un o gwnselwyr yr elusen gydweithio ar y prosiect, gan gynnig cymorth i'r perfformwyr proffesiynol a'r cast cymunedol. 

"Roeddem ni hefyd yn gallu darparu cefnogaeth o ran sut i gyflwyno gwaith artistig mewn ffordd ddiogel, ar gyfer y perfformwyr a'r gynulleidfa," ychwanegodd Kate Miles. 

"Mae'n normaleiddio'r ymwybyddiaeth ac yn gadael i bobl wybod fod y gefnogaeth yno."

Mae gan y cast y cyfrifoldeb i sicrhau eu bod nhw'n cyflwyno'r neges yn gywir yn ôl Elis. 

"'Dan ni'n teimlo'r cyfrifoldeb i neud o'n iawn. Ella fydd 'na adega' lle fydd o'n anodd i wylio ond gobeithio fydd pobl yn gadael ac yn teimlo gwerth cymuned a'u bod nhw'n teimlo bod eu profiadau nhw ddim yn rhai ynysig, ond yn hytrach yn rwbath sydd yn perthyn i amryw o bobl gwahanol," meddai.

Image
Wyn Thomas Tir Dewi
Wyn Thomas, Rheolwr Achos Tir Dewi

Gydag elusen Tir Dewi yn profi eu mis prysuraf ar gofnod o ran achosion newydd ym mis Mawrth, mae Wyn Thomas yn dweud nad oes modd dweud yn union beth sydd yn gyfrifol am hynny. 

"Dwi ddim yn siŵr os ydi hynny yn ymwneud â'r ffaith fod mwy o angen neu fod mwy o ymwybyddiaeth fod help ar gael. Ma' hi'n drueni bod yr angen yna ond mae'n beth da fod pobl yn gwybod fod yr help yna," meddai.

"Un o’r pethe y’n ni wedi gweld yn ddiddorol yw bod ‘na gynnydd wedi bod yn yr achosion sydd yn dod mewn drwy’r wefan, lle dyw pobl ddim yn gorfod ffonio llinell achos ma’ ffonio a siarad â rhywun dieithr yn anodd," meddai. 

"Fi’n credu falle bod pobl yn ei chael hi’n haws i anfon neges trwy wefan sydd yn grêt o beth bod y cynnig hynny ar gael."

Ychwanegodd Wyn Thomas fod drama fel Praidd yn "gyfle i godi ymwybyddiaeth fod y problemau yn bodoli."

"Mae hefyd yn gwneud i bobl sydd yn mynd trwy’r problemau hyn i sylweddoli bo’ nhw ddim ar ben eu hunain, nid dim ond nhw sydd yn wynebu’r profiadau hyn, ei fod e’n rhywbeth mae pobl eraill hefyd wedi bod trwyddo neu yn mynd trwyddo," meddai.

"Ma’ cynnal y sgwrs yn hollbwysig... os oes un person yn ei glywed, mae e werth e."

Os ydych chi wedi'ch effeithio gan yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.