Goroeswr cam-drin domestig yn croesawu dull newydd o gysylltu hunanladdiad â cham-drin domestig
Mae menyw a gafodd ei cham-drin gan ei gŵr am flynyddoedd wedi croesawu dull newydd gan yr heddlu i adnabod marwolaethau drwy hunanladdiad o ganlyniad i gam-drin domestig.
Fe wnaeth Rachel Williams, o Gas-gwent, golli ei mab 16 oed, Jack, i hunanladdiad ar ôl iddi fod mewn perthynas gamdriniol am 18 mlynedd.
Mae hi wedi croesawu ymwybyddiaeth gynyddol o'r cysylltiad rhwng hunanladdiad a cham-drin domestig ar ôl i astudiaeth newydd gan y Domestic Homicide Project ddangos fod cynnydd yn nifer y dioddefwyr cam-drin domestig sy'n cymryd eu bywydau eu hunain.
Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2025, roedd 347 o farwolaethau'n gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr - cynnydd o 85 marwolaeth o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Am y tro cyntaf, mae mwy o hunanladdiadau yn dilyn cam-drin domestig na nifer y marwolaethau llofruddiaeth sy'n cael eu hachosi gan gam-drin domestig.
Mae'r Domestic Homicide Project yn awgrymu bod y cynnydd hwn yn bennaf oherwydd ymwybyddiaeth gynyddol a newid yn arferion yr heddlu sy'n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion wirio am hanes o gam-drin domestig mewn lleoliadau lle mae hunanladdiadau a marwolaethau annisgwyl wedi digwydd.
'Hunllef'
Yn 2011, cafodd Rachel ei saethu yn ei choes a'i hanafu'n ddifrifol gan ei chyn-ŵr tra'n gweithio mewn siop trin gwallt yng Nghasnewydd.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, fe wnaeth ei chyn-ŵr gymryd ei fywyd ei hun - gyda'i mab, Jack, hefyd yn lladd ei hun yn fuan ar ôl yr ymosodiad.
"Fe wnes i ddod allan o’r ysbyty ddydd Gwener ac yn anffodus fe wnaeth fy mab 16 oed gymryd ei fywyd ei hun y dydd Llun canlynol. Mae hyn i gyd yn ganlyniad gweithredoedd un dyn," meddai Rachel.
"Mae’n anghredadwy, rydych chi’n deffro bob dydd ac yn meddwl eich bod chi mewn hunllef.
"Nid yn unig gorfod delio â phopeth a ddigwyddodd gyda thrawma’r saethu, ond colli fy mab fy hun…
"Dydych chi byth yn dod drosto, rydych chi’n dysgu byw gydag ef."
Mae Rachel yn credu bod hunanladdiad Jack yn "ganlyniad uniongyrchol" i’r cam-drin y gwnaeth hi ddioddef.
"Mae’r hyn y mae'r troseddwyr hyn yn rhoi nid yn unig y dioddefwr drwyddo, ond y plant ac unrhyw un arall yn y cartref, yn anghredadwy," meddai.
"Rwy’n credu bod Jack wedi marw ar ôl popeth a ddigwyddodd. Ar eu tystysgrif marwolaeth... dylai fod yn hunanladdiad o ganlyniad i gam-drin domestig."
Mae Rachel wedi croesawu'r ymwybyddiaeth gynyddol y gall hunanladdiad fod yn ganlyniad i gam-drin domestig.
"Mae'n wych nawr ei fod ar flaen y gad o ran yr hyn sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd," meddai.
"Os byddwn yn dechrau cydnabod y cysylltiad rhwng hunanladdiad a cham-drin domestig, bydd cymdeithas yn gweld y cam-drin fel bygythiad mwy i fywyd a chymdeithas."
Dywedodd y Comisiynydd Cynorthwyol Louisa Rolfe, arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer cam-drin domestig: "Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu cynnydd pwysig yn y ffordd y mae plismona’n nodi risg ac yn dilyn cyfiawnder mewn ffyrdd newydd.
"Ond mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn ein hatgoffa’n llym, i ormod o ddioddefwyr, fod cam-drin yn parhau ac eisoes yn hysbys cyn eu marwolaeth."
Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen Advocacy After Fatal Domestic Abuse, Frank Mullane: "Am bum mlynedd, mae AAFDA wedi bod yn dod â theuluoedd i gwrdd â phenaethiaid yr heddlu i rannu’r gwendidau mewn ymchwiliadau’r heddlu.
"Mae wedi bod yn galonogol gweld y penaethiaid hynny’n cymryd hyn mor ddifrifol ac yn gwneud rhywbeth yn ei gylch.
"Mae rhai ymchwiliadau heddlu rhagorol ar ôl hunanladdiadau sy'n dilyn cam-drin domestig, ond mae rhai gwael hefyd.
"Mae cyfiawnder yn methu heb ymchwiliad heddlu proffesiynol a sylweddol."