Perthynas America a Phrydain yn un 'anhepgor' medd y Brenin Charles

Brenin Charles mewn cinio gwladol yn America

Mae Trump wedi disgrifio'r berthynas rhwng Prydain ac America fel "cyfeillgarwch heb ei ail".

Yn ystod cinio gwladol fe ail bwysleisiodd y Brenin Charles bwysigrwydd Nato a chynghreiriad eraill i America "mewn byd sydd yn gynyddol gymhleth a lle mae anghydfod."

Mae'r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla ar ymweliad swyddogol ag America gyda’r nod o atgyfnerthu’r berthynas agos rhwng y ddwy wlad.

Yn gynharach fe wnaeth y Brenin Charles araith yn y Gyngres lle y pwysleisiodd  bwysigrwydd y berthynas "anhepgor" rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau.

Dywedodd hefyd fod angen i'r ddwy wlad sefyll gyda'i gilydd.

"Rydyn ni yn cyfarfod mewn cyfnod o ansicrwydd mawr, mewn cyfnod o wrthdaro o Ewrop i'r Dwyrain Canol sydd yn gosod heriau aruthrol," meddai'r Brenin Charles. 

Ychwanegodd yn ystod yr araith bod angen cefnogaeth ar gyfer Nato ac fe alwodd am heddwch yn y byd.

"Rwyf wedi fy ysbrydoli gyda'r parch dwfn sydd yn datblygu wrth i bobl o wahanol grefyddau ddod i ddeall ei gilydd."

Ond yn ystod y cinio gwladol fe ddywedodd Trump bod y Brenin Charles yn cefnogi ei safbwynt na ddylai Iran gael arfau niwclear.

"Mae Charles yn cytuno gyda fi, ac yn teimlo hyn hyd yn oed fwy na fi... dydyn ni byth am adael i'r gwrthwynebwr yma gael arfau niwclear," meddai Trump.

Mae Palas Buckingham wedi ymateb trwy ddweud: "Mae'r Brenin yn naturiol yn ymwybodol o safbwynt hirhoedlog ac adnabyddus ei Lywodraeth ar atal amlhau arfau niwclear."

Yn ystod yr ymweliad bydd y Brenin yn cynnal trafodaethau a fydd yn canolbwyntio ar faterion megis newid hinsawdd, diogelwch byd-eang a chydweithrediad economaidd.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.