Dartiau: Gweld y fenyw gyntaf yn ennill cystadleuaeth y dynion yn 'ysbrydoli ni gyd'

Beau Greaves / Rhian O'Sullivan

Mae capten tîm dartiau menywod Cymru yn dweud bod gweld y fenyw gyntaf yn ennill cystadleuaeth dynion yn y gamp broffesiynol yn "ysbrydoli ni gyd."

Enillodd Beau Greaves, 22 oed o Doncaster, Bencampwriaeth y Chwaraewyr 11 ym Milton Keynes ddydd Llun.

Roedd wedi ennill saith o gemau ar ei ffordd i gipio'r tlws, gan gynnwys yn erbyn cyn-bencampwyr y byd Rob Cross, Gary Anderson ac yna Michael Smith 8-7 yn y rownd derfynol.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Rhian O'Sullivan, y Gymraes gyntaf i ennill teitl yng nghystadlaethau menywod y PDC (Corff Llywodraethu Dartiau), bod camp Greaves yn "hollol anhygoel."

“I feddwl pwy oedd hi wedi maeddu, a’r ffordd naeth hi ennill y gystadleuaeth, roedd e’n hollol anhygoel," meddai.

“I guro tri chyn-bencampwr y byd, mae’n dipyn o beth, a chadw ei phen hefyd.

“Mae hi mor ifanc ond gyda gymaint o brofiad o ennill pethau, ond i gadw ei phen a chadw ati yn dangos y safon a’r person mae hi."

Image
Roedd Beau wedi ennill 114 o gemau'n olynol ar y gylchdaith i fenywod
Roedd Beau wedi ennill 114 o gemau'n olynol ar y gylchdaith i fenywod mewn cyfnod o 11 mis.

Efelychu Luke Littler

Mae Greaves wedi ennill 53 o deitlau yng nghystadlaethau'r menywod ac eisoes wedi cystadlu mewn sawl cystadleuaeth yn erbyn y dynion.

Mae Rhian O'Sullivan, sydd o Lanelli yn credu y gallai'r chwaraewraig 22 oed efelychu'r hyn mae Luke Littler wedi ei wneud i'r gamp.

“Fi’n credu roedd pobl yn deall bod hi’n rhywbeth arbennig cyn hyn," ychwanegodd.

“Mae hi yn rhywun sy'n mynd i fod yn enfawr yn y gêm, gobeithio.

“I ennill cystadleuaeth, mae fe’n rhywbeth galed, i gadw y safon a’r canolbwyntio a faint o ffys fydd gyda’r cyfryngau pe bai hi’n ennill.

“Yn bendant mae ganddi’r botensial i wneud yr un peth â Luke Littler o ran denu pobl i’r gamp.

“Mae eisiau mwy o ferched i ddechrau chwarae a bydd hwn yn ysbrydoli nhw i wneud hynny, gobeithio, achos mae hi jyst yn ffantastig."

Image
Capten Cymru, Rhian O'Sullivan
Rhian O'Sullivan oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill cystadleuaeth dartiau'r PDC

'Camp fwyaf ryfeddol'

Dros y blynyddoedd mae sawl menyw wedi chwarae yng nghystadlaethau'r dynion, a'r gystadleuaeth fwyaf yw Pencampwriaeth y Byd ym Mhalas Alexandra.

Un fenyw yn unig sydd wedi ennill gêm yn erbyn dyn yn y gystadleuaeth honno, sef Fallon Sherrock yn 2020 yn erbyn Ted Evetts o Loegr ac yna Mensur Suljovic o Awstria.

Roedd buddugoliaethau Sherrock yn rhai hanesyddol, ond mae sylfaenydd Darts Cymru, Dylan Williams, yn credu bod yr hyn mae Greaves wedi'i gyflawni "ar lefel hollol arall."

"O blith pob un o’r menywod sydd erioed wedi chwarae ar gylchdaith broffesiynol y PDC, roedd gennyf deimlad mai Beau fyddai’r un a fyddai’n gwneud hanes yn y pen draw," meddai wrth Newyddion S4C.

"Roedd gweld Fallon Sherrock yn ennill gemau yn erbyn dynion ar lwyfan Alexandra Palace yn un peth, ac yn hanesyddol ar y pryd…ond mae ennill cystadleuaeth ar y cylchdaith broffesiynol yn gwbl wahanol, ac ar lefel hollol arall i mi.

"Mae’r ffaith ei bod yn rhaid iddi ennill saith gêm yn olynol, gan guro tri Phencampwr y Byd ar hyd y ffordd, yn golygu mai hon yw’r gamp fwyaf rhyfeddol erioed gan chwaraewraig dartiau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.