Y Brenin Charles yn gobeithio cryfhau cysylltiadau ag America

Ymweliad gwladol y Brenin Charles 2026

Mae’r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla wedi dechrau ar ymweliad swyddogol ag America, gyda’r nod o atgyfnerthu’r berthynas agos rhwng y ddwy wlad.

Yn ystod yr ymweliad, bydd yn cael ei groesawu gan yr Arlywydd Trump, yn ogystal â chwrdd ar Cyn-Arlywydd, Joe Biden.

Bydd y Brenin yn cynnal trafodaethau a fydd yn canolbwyntio ar faterion megis newid hinsawdd, diogelwch byd-eang a chydweithrediad economaidd.

Yn ôl swyddogion y palas mae'r ymweliad yn rhan o ymdrech ehangach gan y Frenhiniaeth i gryfhau partneriaethau rhyngwladol mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol. 

Bydd y brenin hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus a diwylliannol, gan gynnwys ymweliadau â sefydliadau sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd ac arloesedd.

Mae’r ymweliad hwn yn cael ei weld fel cam pwysig i’r brenin, sy’n parhau i siapio ei rôl ar y llwyfan rhyngwladol ers ei goroni yn 2023. 

Mae hefyd yn gyfle meddau swyddogion brenhinol i bwysleisio’r cysylltiadau hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, mae rhai protestiadau wedi’u trefnu gan grwpiau sy’n feirniadol o’r frenhiniaeth, gyda’r rhai hynny’n galw am fwy o atebolrwydd a thryloywder.

Mae yna hefyd alwadau wedi bod i'r Brenin i gyfarfod gyda goroeswyr y pedoffeil Epstein. Ond fydd hyn ddim yn digwydd o achos pryderon y gallai hyn darfu ar unrhyw gamau cyfreithiol ac atal cael cyfiawnder i'r dioddefwyr.

Y disgwyl yw y bydd yr ymweliad yn para sawl diwrnod, gyda’r pwyslais ar adeiladu pontydd diplomyddol a hyrwyddo cydweithrediad ar heriau byd-eang.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.