Cyhuddo dyn o Galiffornia o geisio llofruddio Donald Trump
Cyhuddo dyn o Galiffornia o geisio llofruddio Donald Trump
Mae dyn o Galiffornia wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio'r Arlywydd Donald Trump.
Cafodd Cole Allen, 31 oed, ei arestio ar ôl i ergydion gael eu tanio y tu allan i neuadd yng ngwesty'r Hilton yn Washington DC nos Sadwrn, lle’r oedd yr Arlywydd Trump yn bresennol mewn cinio gyda channoedd o ohebwyr y Tŷ Gwyn.
Cafodd ei gyhuddo hefyd o ddefnyddio gwn tanio yn ystod trosedd dreisgar, a chludo gwn tanio ar draws taleithiau gyda’r bwriad o gyflawni trosedd.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd yr Arlywydd Trump ei ruthro allan o'r neuadd wrth i swyddogion diogelwch ddal Allen ger y fynedfa.
Cafodd swyddog o’r gwasanaethau diogelwch ei saethu, ond cafodd ei achub am ei fod yn gwisgo fest gwrth-fwled.
Dywedodd yr heddlu fod gan Allen ddryll, gwn llaw a sawl cyllell yn ei feddiant ar y pryd.
Nid oes ganddo gofnod troseddol, ac nid oedd ar radar gorfodi'r gyfraith o'r blaen.
Ni wnaeth gyflwyno ple yn ystod y gwrandawiad ddydd Llun.
Bydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal ddydd Iau.
Trydydd ymgais
Dyma’r trydydd tro i rywun geisio lladd yr Arlywydd Trump o fewn dwy flynedd, yn ôl Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt.
Mae hi'n dweud bod yr arlywydd yn dymuno diolch i'r holl wasanaethau diogelwch, gan gynnwys y swyddog a gafodd ei saethu.
Ychwanegodd Leavitt ei fod yn "fodlon" gydag ymateb y gwasanaethau diogelwch i'r digwyddiad ddydd Sadwrn.
Daw'r diweddaraf o'r Tŷ Gwyn wrth i'r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla gyrraedd yr Unol Daleithiau ar ymweliad gwladol.
Wrth siarad y tu allan i'r llys ffederal yn Washington DC lle'r oedd Allen wedi ymddangos ddydd Llun, dywedodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes wrth raglen Newyddion S4C: "Roedd y digwyddiad nos Sadwrn yn tanio adolygiad o gwmpas cynlluniau diogelwch yr ymweliad yma.
"Ond mae'r ymweliad yn mynd ymlaen, mae'r Brenin Charles wedi cyrraedd America a dyma ymweliad mae'r ddwy ochr - y Deyrnas Unedig ac America - eisiau gweld yn mynd ymlaen.
"Oherwydd mae'r berthynas wedi bod yn anodd a llawn tensiwn ers i Donald Trump fod yn feirniadol iawn ers i Keir Starmer ddweud bod e ddim yn fodlon cymryd rhan gydag America yn y rhyfel yn erbyn Iran."