Cau Pont y Borth am gyfnod er mwyn cynnal archwiliad diogelwch
Cafodd Pont y Borth rhwng Ynys Môn a'r tir mawr ei chau am gyfnod brynhawn Llun er mwyn cynnal archwiliad diogelwch.
Dywedodd Traffig Cymru fod y penderfyniad i gau'r bont ychydig wedi 16.30 wedi ei wneud am fod "cerbyd dros bwysau" wedi ei chroesi.
O ganlyniad, roedd y ffordd ar gau am dros ddwy awr - gan arwain at dagfeydd ar Bont Britannia i'r ddau gyfeiriad.
"Oherwydd bod cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont yn gynharach heddiw, mae'n rhaid cau’r ffordd er mwyn cynnal archwiliad. Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny," meddai llefarydd ar ran Traffig Cymru.
"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra, ond ein blaenoriaeth yw eich diogelwch.
"Hoffem eich atgoffa mai dim ond cerbydau o dan 7.5t sy’n cael defnyddio Pont Menai."
Cafodd y bont ei hailagor ychydig cyn 19.00 nos Lun.
200 oed
Mae'r bont eiconig yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed eleni.
Mae cyfyngiadau ar bwysau cerbydau mewn grym ar y bont ar hyn o bryd wrth i waith atgyweirio ar y strwythur hanesyddol gael ei gwblhau.
Bydd y gwaith atgyweirio hwnnw ar y bont yn parhau tan o leiaf dechrau 2027, meddai Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.
Cafodd terfyn pwysau newydd ei gyflwyno yn dilyn "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol ym mis Hydref y llynedd.
Roedd archwiliad wedi darganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont, ac fe gafodd y bont ei chau yn llwyr am gyfnod.