Honiadau i dair giât gael eu dwyn yn ardal Llangollen
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i dair giât gael eu dwyn yn honedig yn ardal Llangollen.
Yn ôl y llu, roedd y gatiau'n rhai wedi eu galfaneiddio, ac yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law, cafodd y tair eu cymryd o gaeau yn Eglwyseg a Phentredwr rhwng 24:00 ac 01:00 ar 20 Ebrill.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld neu sydd â lluniau o gerbyd 4x4 lliw tywyll yn teithio trwy Bentredwr gyda gatiau ar y cefn ar y dyddiad hwn i gysylltu â ni.
"Dylai unrhyw un sy'n dyst i unrhyw beth amheus neu sydd â gwybodaeth a allai helpu ein hymholiadau i'r mater hwn gysylltu â ni trwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 26000309863."