Cymeradwyo dymchwel rhan o hen westy Corbett Arms yn Nhywyn

Corbett Arms, Tywyn

Mae cynlluniau i ddymchwel rhan o hen westy yng Ngwynedd wedi’u cymeradwyo gan gynghorwyr.

Pleidleisiodd aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd o blaid y cais o naw i bedwar, gyda neb yn ymatal.

Mae’r cais yn caniatáu dymchwel rhan o adeilad The Corbett Arms yn Nhywyn yn raddol, ynghyd â gwaith cynnal a chadw i sefydlogi’r strwythur fydd yn parhau yno.

Cafodd y cais ei gymeradwyo yn amodol ar amodau’r caniatâd cynllunio.

Fe gwympodd rhannau o gefn yr adeilad ddwywaith yn ddiweddar, ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.

Adeilad hanesyddol

Cafodd y strwythur tri llawr ei restru yn 1951.

Fe wnaeth John a Yoko Lennon ymweld â’r gwesty ym 1969 gyda’u plant.

Daeth ei ddefnydd fel gwesty i ben yn 2009 pan gafodd ei gau.

Ychydig o waith cynnal a chadw sydd wedi’i wneud ers hynny, ac mae cyflwr yr adeilad wedi parhau i ddirywio.

Image
Corbett Arms
Gwesty Corbett. Llun gan Gyngor Gwynedd.

Effaith leol

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd lleol dros ward Morfa Tywyn, John Pughe, fod y farn yn lleol wedi newid.

Dywedodd fod llawer yn wreiddiol yn gwrthwynebu dymchwel rhannau o’r adeilad, ond erbyn hyn “mae’r mwyafrif eisiau ei ddymchwel”.

Ychwanegodd fod sgaffaldiau wedi bod ar yr adeilad ers blwyddyn a bod “busnesau lleol wedi dioddef yn ariannol”.

“Mae’n adeilad prydferth, eiconig ond mae peryglu’r cyhoedd yn annerbyniol,” meddai.

Pryderon am y dyfodol

Er gwaethaf y penderfyniad, mae rhai wedi mynegi pryderon am ddyfodol yr adeilad.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Y Gymdeithas Fictoraidd eu bod yn parhau i bryderu’n fawr.

“Mae'r Gymdeithas Fictoraidd yn parhau i bryderu o ddifri am ddyfodol yr adeilad,” medden nhw.

“Rydym yn poeni nad yw'r cais hwn wedi mynd i’r afael yn ddigonol nac wedi ystyried unrhyw ailddefnydd cynaliadwy ar gyfer yr adeilad hwn.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.