Dyn 67 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

27/04/2026
Mynytho

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn 67 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mynytho, Pen Llŷn ddydd Sadwrn.

Cafodd swyddogion eu galw i adroddiadau am wrthdrawiad rhwng VW Polo coch a beic modur Yamaha du ar y B4413 tua 15:00 ar 25 Ebrill..

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd Ditectif Sarjant Liam Morris, o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Hoffwn ddiolch i aelodau o’r cyhoedd a gynorthwyodd yn y fan a’r lle ar ôl y digwyddiad hwn.

“Rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â’r heddlu eisoes i ddod ymlaen.

“Hefyd, dylai unrhyw un sydd â ffilm dashcam a allai fod wedi dal y naill gerbyd neu’r llall cyn y gwrthdrawiad gysylltu â’r heddlu.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliadau gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000326787.”

Mae nifer o deyrngedau wedi eu cyhoeddi i'r dyn a fu farw ar gyfryngau cymdeithasol, ond nid yw ei enw wedi ei gyhoeddi'n swyddogol eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.