Hanner marathon y dydd am 90 diwrnod i ddathlu pen-blwydd CFFI Cymru
Bydd Cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru eleni, Angharad Thomas, yn seiclo, nofio neu gerdded bron i hanner marathon bob dydd am y 90 diwrnod nesaf.
Dros y penwythnos, mae Her Flynyddol Cadeirydd CFFI Cymru yn dechrau. Yn ychwanegol eleni, mae’r mudiad yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu. Bydd Angharad yn teithio cyfanswm o 1,936km, sy’n cyfateb i flwyddyn sefydlu CFFI Cymru.
Mae'r her bellach yn un o ddyletswyddau Cadeirydd y mudiad yn ystod eu blwyddyn wrth y llyw. Yn y gorffennol, mae cadeiryddion wedi ymgymryd â sawl sialens, gan gynnwys taith gerdded, dringo tri mynydd uchaf Cymru o fewn 24 awr a rhwyfo ar fwrdd y llong o Gaergybi i Ddulyn ac yn ôl ar beiriant rhwyfo.
Eleni yw’r tro cyntaf i’r her gael ei chynnal dros gyfnod estynedig o amser. Y Cadeirydd hefyd sy'n dewis elusen swyddogol y mudiad am y flwyddyn. Ymchwil Canser Cymru yw dewis Angharad eleni, a bydd yr arian sy’n cael ei godi yn cael ei rannu rhwng yr elusen a chronfa CFFI Cymru.
Wrth sôn am sut benderfynodd hi ar yr her eleni, dywedodd Angharad: "Yn bennaf, o'n i ishe dod mewn ar agwedd o naw deg mlynedd o'r mudiad, ond o'n i ddim yn siŵr sut i neud hwnna.
"Dechreuodd e bant fel bach o syniad i neud fel 90 milltir mewn naw deg diwrnod. Ond wedyn dyw hwnna ddim y sialens fwyaf heriol erioed!
“On i'n trial meddwl fel faint o glybiau sydd a faint o aelodau ac ati, so fi'n credu yr happy medium wedyn oedd dewis y flwyddyn sefydlu a neud yn siŵr bod e digon heriol, a bod e'n dathlu'r mudiad hefyd.”
Mae Angharad yn aelod o CFFI Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Bydd aelodau’r mudiad hefyd yn cefnogi Angharad yn ystod yr her.
“Dwi'n lwcus iawn bod nifer o aelodau a ffrindiau'r mudiad wedi ymuno â grŵp Strava hefyd i gael trial neud gymaint o gilometrau ma’ nhw'n gallu hefyd," meddai.
"So fydda i'n neud y cyfanswm i gyd. Fi'n gwbod ma’ ambell un arall di gweud fyddan nhw'n trial neud y cyfanswm hefyd, ond i drial cael gymaint o bobl i ymuno jyst i weld sawl gwaith allwn ni bwrw'r targed.
Codi arian
Mae elusen Ymchwil Canser Cymru yn agos at galon Angharad a dyna pam y dewisodd hi'r achos fel elusen y Cadeirydd eleni.
“Mae nifer o aelodau o'r teulu a pobl o fewn y gymuned wedi cael diagnosis o ganser yn anffodus," meddai.
"Mae rhai o'n nhw ddim gyda ni nawr. Os bod unrhywbeth yn gallu cael ei wneud i roi cyfle i pobl gwella, ma fe werth chweil wedyn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru, Adam Fletcher, eu bod nhw “wrth eu bodd” o gael cefnogaeth CFFI Cymru eleni, gan ei fod yn gyfle i gysylltu â chynulleidfa iau ledled y wlad a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith a gwledig.
Ychwanegodd bod yr elusen wedi ariannu dros £41.86 miliwn mewn ymchwil canser yng Nghymru, ond bod y galw am gyllid yn cynyddu. Nodwyd hefyd fod diffyg cyllid o £4.1 miliwn wedi’i adrodd yn 2025, gan bwysleisio nad yw’r angen am gefnogaeth erioed wedi bod yn fwy.
Dywedodd hefyd na ellir “diolch iddi ddigon” am ei hymrwymiad a’i hymdrechion.
Dathliadau'r 90
Yn ôl Mared Rand Jones, Prif Weithredwr CFFI Cymru, mae’r her yn adlewyrchu "ysbryd y mudiad mewn blwyddyn arbennig" wrth iddo ddathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu.
Pwysleisiodd fod y gefnogaeth eang yn dangos cryfder y gymuned o fewn y mudiad, gan annog aelodau a ffrindiau ar draws Cymru i gymryd rhan drwy gerdded, rhedeg, seiclo neu nofio.
Nododd hefyd y bydd y cyfres o weithgareddau ledled Cymru i ddathlu'r pen-blwydd, gan gynnwys recordio sengl arbennig 'Fel hyn da ni fod' gan Bwncath, 'Cinio Tei Piws' nos Sadwrn cyn Sioe Frenhinol Cymru ynghyd â mentrau codi arian a digwyddiadau arbennig yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Bydd Angharad yn parhau efo’r her drwy gydol y Sioe Frenhinol, gan orffen ddydd Iau sef diwrnod olaf y sioe. Bydd yr wythnos yn uchafbwynt i ddathliadau pen-blwydd y mudiad.
“Y gobaith yw mae fel arfer lot o gyfarfodydd lot o mynd o amgylch y maes yn gwylio'r cystadlu ac edrych am yr aelodau felly gobeithio bydd digon o gamau yn cael eu neud i allu cwblhau'r dasg," meddai.
"Ni'n gobeithio cael rhywbeth ar y lawnt tu allan i adeilad CFFI er mwyn trio cael fwy o bobl i allu ymgymryd a'r her a chael y cilometrau olaf yna mewn.
“Fi'n barod i fe ddechre nawr!”
