Dau newid i dîm rygbi Cymru i herio Lloegr yn y Chwe Gwlad
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Sean Lynn wedi gwneud dau newid i'r tîm fydd yn herio Lloegr yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Bydd Branwen Metcalfe yn chwarae ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth tra bydd Keira Bevan yn dechrau yn safle'r mewnwr yn lle Seren Lockwood.
Bethan Lewis fydd capten y garfan wrth i Kate Williams golli allan oherwydd anaf i’w choes.
Does dim newid i'r bump blaenwr wrth i Gwenllian Pyrs, Sisilia Tuipulotu, Kelsey Jones, Gwen Brabb a Jorja Aiono gychwyn eu pumed gêm yn olynol.
Bethan Lewis a Branwen Metcalfe fydd y blaenasgellwyr tra bod Bryonie King yn cychwyn yn safle'r wythwr.
Lleucu George sydd yn bartner i Keira Bevan yn safleoedd y maswr a'r mewnwr.
Does dim newid i'r tri yn y cefn wrth i Jaz Joyce a Seren Singleton eistedd ar naill asgell a Kayleigh Powell yn y safle cefnwr.
Mae newid mawr ar y fainc wrth i Alisha Joyce gymryd ei lle ac o bosib yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers rhoi genedigaeth i'w phlentyn hi a Jaz Joyce, Ralphie.
Chwaraeodd dros Gymru ddiwethaf yn 2024 pan enillodd Cymru 19-10 yn erbyn Japan.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2047259329791664632
'Adeiladu'
Er gwaethaf hanner cyntaf addawol roedd Ffrainc yn ormod i Gymru yn yr ail hanner wrth iddyn nhw ennill 38-7 yng Nghaerdydd yn y Chwe Gwlad penwythnos diwethaf.
Gyda her sylweddol o'u blaenau yn erbyn pencampwyr presennol y byd a'r Chwe Gwlad, mae Sean Lynn yn dweud bod angen i Gymru fod ar eu gorau er mwyn cael unrhyw beth allan o'r ornest.
“Mae pawb o fewn y garfan yn ymwybodol o faint yr her sy’n ein hwynebu yn erbyn Lloegr," meddai.
“Mae’r hyn sydd o’n blaenau dros y penwythnos yn wirioneddol heriol gan fod Lloegr wedi arloesi yng ngamp y menywod a nhw sydd ar flaen y gad yn y cyd-destun hwnnw.
“Wedi dweud hynny - dyma’r gemau rydych chi eisiau eu chwarae a bod yn rhan ohonyn nhw. Fe fyddwn ni’n gwybod yn union lle ydyn ni ar ein siwrnai wrth ddatblygu wedi’r gêm yma yn Ashton Gate.
Ychwanegodd Lynn: “Adeiladu ar ein perfformiadau, ein harddull ni o chwarae a pharhau i feithrin ein hunaniaeth ni ein hunain yw’r nod i ni’r penwythnos yma.
“Mae angen i ni chwarae gyda’r un angerdd a dwyster ag y gwnaethon ni yn erbyn yr Alban a Ffrainc – ond gwneud hynny’n gyson trwy gydol yr ornest hon.
“Does dim amheuaeth bod agwedd ein merched i’w ganmol yn fawr. Maen nhw’n rhoi popeth dros yr achos a bydd angen i hynny fod yn amlwg iawn yn erbyn Lloegr."
