Pobl yn dioddef o glefyd y gwair am bythefnos yn hirach medd adroddiad

Clefyd y gwair

Mae pobl sy’n dioddef o glefyd y gwair bellach yn profi symptomau am hyd at bythefnos yn hirach nag y bydden nhw wedi gwneud yn y 1990au, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad 'Lancet Countdown in Europe 2026' wedi dod i'r casgliad bod newid hinsawdd wedi "ymestyn y tymor paill", gan gynyddu’r cyfnod y mae pobl sy'n dioddef o glefyd y gwair yn cael eu hamlygu i alergenau.

Mae clefyd y gwair yn digwydd pan mae gan unigolyn alergedd i baill o goed, glaswellt a chwyn.

Mewn tywydd cynnes, llaith a gwyntog mae'r symptomau yn waeth, fel arfer rhwng diwedd mis Mawrth a mis Medi, pan mae lefelau paill ar eu huchaf.

Yn ôl yr adroddiad newydd, a gafodd ei gyhoeddi yn The Lancet Public Health, mae newid hinsawdd wedi symud tymor blodeuo planhigion sy’n rhyddhau paill.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr edrych ar newidiadau yn amser a dwyster tymhorau paill coed bedw, gwern ac olewydd. 

Fe wnaethon nhw ddarganfod fod dechrau’r tymor wedi symud yn gynharach o wythnos i bythefnos ar gyfer pob coeden alergenaidd rhwng 2015 a 2024, o’i gymharu â 1991 i 2000.

"Mae newid hinsawdd wedi ymestyn y tymor paill o wythnos i bythefnos, gan gynyddu hyd yr amlygiad i bobl â rhinitis alergaidd," meddai’r awduron.

Dywedodd Anne Biggs, dirprwy bennaeth gwasanaethau clinigol yn Allergy UK: "Mae clefyd y gwair yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU bob blwyddyn.

"Er bod eu symptomau’n ysgafn i rai, i lawer mae symptomau clefyd y gwair yn effeithio ar ansawdd eu bywyd.

"Mae ymchwil a dealltwriaeth o amseriad a hyd gwahanol dymhorau paill yn hanfodol i gefnogi clinigwyr i sicrhau bod triniaeth a rheolaeth cyflyrau alergaidd yn cael eu hoptimeiddio.

"Mae manylion am dymhorau paill hirach yn hanfodol i ddeall a rheoli cyflyrau alergaidd sy’n gysylltiedig â phaill ac ansawdd aer.

"Mae’n gyfle i godi ymwybyddiaeth nid yn unig o effaith clefyd y gwair, ond hefyd o’r opsiynau triniaeth sydd ar gael i sicrhau y gall pobl ag alergedd i baill fyw heb symptomau."

Effeithiau iechyd newid hinsawdd

Mae'r adroddiad ar newid hinsawdd ac iechyd yn Ewrop hefyd yn rhybuddio bod risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â gwres yn cynyddu. Yn ôl yr adroddiad mae  rhybuddion gwres ar draws Ewrop wedi cynyddu 318% o’i gymharu â’r 1990au.

Mae rhybuddion gwres yn cael eu cyhoeddi pan mae cyfnodau hir o dywydd poeth yn gallu effeithio ar iechyd pobl.

Mae’r awduron yn nodi bod bron pob rhanbarth Ewropeaidd a gafodd ei monitro wedi gweld cynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres rhwng 2015 a 2024 o’i gymharu â 1991 i 2000.

Yn ôl amcangyfrifon, roedd tua 62,000 o farwolaethau yn Ewrop yn gysylltiedig â gwres yn 2024 yn unig.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod newid hinsawdd yn arwain at fwy o firysau sy'n cael eu trosglwyddo gan fosgitos yn Ewrop.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.