Teyrnged Jac Morgan i'w gefnder wrth i elusen leol godi dros £22,000

Jac a Harri Morgan

Mae apêl codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl yn y gorllewin wedi cyrraedd dros £22,000 yn dilyn marwolaeth cefnder capten tîm rygbi dynion Cymru, Jac Morgan. 

Dechreuodd yr apêl bedwar diwrnod yn ôl i godi arian ar gyfer Sefydliad Jac Lewis yn dilyn marwolaeth Harri Morgan. 

Cafodd yr elusen ei sefydlu gan deulu a ffrindiau er cof am Jac Lewis a fu farw yn 2019, ac mae'n darparu cymorth iechyd meddwl a lles cymunedol yn ardal Brynaman a gorllewin Cymru.

Mewn teyrnged i'w gefnder, dywedodd Jac: "Yr wythnos hon, fe gollais i fy nghefnder a fy ffrind gorau Harri yn sydyn. Roedd yn golygu'r byd i ni fel teulu. Roedd yn caru gymaint am fywyd, ond ei hoff beth oedd chwarae rygbi i Frynaman. 

"Os oes unrhyw un yn dioddef, cysylltwch â'ch ffrindiau, eich teulu neu unrhyw un o'ch cwmpas. Mae yna bobl y gallwch chi siarad â nhw bob amser, ac mae cymorth ar gael drwy Sefydliad Jac Lewis. 

"Fe fydd ei frodyr a'i ffrindiau agos yn rhedeg Hanner Marathon Abertawe ym mis Mehefin er cof am Harri."

Dywedodd Clwb Rygbi Brynaman mewn teyrnged fod Harri yn chwaraewr "hynod o dalentog a mor ymroddedig. Fe roddodd Harri bopeth i'r gêm, i'w gyd-chwaraewyr ac i'r clwb yma. Wedi iddo gael cyfle i dreulio amser ar lefel uwch, fe ddychwelodd adref i Glwb Rygbi Brynaman, lle'r oedd ei galon yn perthyn go iawn.

"Mae ei golled yn gadael gwagle na fydd modd ei lenwi yn iawn fyth, ac mae'n cael ei theimlo ar draws y clwb a'r gymuned. 

"Fel clwb a chymuned, fe fyddwn ni'n dod at ein gilydd i gofio amdano yn y ffordd y mae'n ei haeddu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.