Ynys Môn: Dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ger Porthaethwy

20/04/2026

Ynys Môn: Dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ger Porthaethwy

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ger Porthaethwy ar Ynys Môn.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Penmynydd ger y dref toc wedi 17:00 ddydd Sul i gynorthwyo'r gwasanaethau brys.

Er gwaethaf eu hymdrechion, cyhoeddwyd bod dyn 82 oed wedi marw yn ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn.

"Mae'r crwner wedi cael gwybod, ac mae ymholiadau'n parhau fel rhan o ymchwiliad ar y cyd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru."

Ychwanegodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod un criw o Fangor ac un criw o Fenllech wedi eu hanfon yno, ac fe gafodd corff dyn ei ddarganfod y tu allan i'r adeilad. 

Dywedodd Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Ry'n ni'n estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.

"Mae achos y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.