Sir Benfro: Eluned Morgan yn galw am gefnu ar gynllun amddiffyn gyda’r UDA

Eluned Morgan

Mae Eluned Morgan wedi galw am roi’r gorau i waith yn Sir Benfro ar gynllun amddiffyn gyda’r Unol Daleithiau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, a oedd yn siarad fel ymgeisydd yn etholaeth Ceredigion Penfro yn yr etholiad ar 7 Mai, nad yw’r Unol Daleithiau “yr un partner ag yr oedd o'r blaen”.

Fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2024 y byddai Barics Cawdor yn Sir Benfro yn gartref i gynllun DARC ('Deep Space Advanced Radar Capability').

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw codi cyfanswm o 27 o ddisglau radar ar y safle.

Mae Eluned Morgan bellach wedi annog Llywodraeth y DU i atal ei rhan yn rhaglen.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Fonesig Morgan: “Dwi’n galw am atal prosiect amddiffyn Darc yn Sir Benfro.

“Nid yw’r Unol Daleithiau o dan Donald Trump yr un partner ag yr oedd unwaith.

“Nid yw cynghreiriad dibynadwy yn sôn am dargedu sifiliaid, tanseilio ein cynghreiriaid, a bychanu aberth ein lluoedd arfog.

“Dwi’n credu mewn cynghreiriau rhyngwladol, dwi’n credu mewn diogelwch ar y cyd."

Ychwanegodd ei datganiad: “Mae gwahaniaeth clir rhwng sefyll gyda’n partneriaid a rhoi rhwydd hynt i arlywydd yr Unol Daleithiau sydd wedi bygwth cyflawni troseddau rhyfel ac wedi dangos dirmyg tuag at ein gwlad.

“Dwi’n annog Llywodraeth y DU i atal ein rhan ym mhrosiect radar Aukus nes y gallwn fod yn hyderus bod y partneriaethau hynny’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n buddiannau diogelwch.”

Y cefndir

Bydd rhaglen Darc yn golygu datblygu rhwydwaith o safleoedd radar yn Awstralia, yr Unol Daleithiau a’r DU i ddarparu monitro byd-eang o’r awyr, gan gynyddu gallu gwledydd Aukus i olrhain gwrthrychau yn y gofod.

O dan y cynlluniau, bydd safle Barics Cawdor yn Sir Benfro, a oedd yn fod i gau erbyn 2028 yn wreiddiol, yn cael ei adnewyddu i wneud lle i Darc.

Roedd wedi bod yn orsaf hedfan yr Awyrlu Brenhinol ac yn ganolfan i'r Llynges Frenhinol.

Mae’r cynlluniau wedi derbyn rywfaint o wrthwynebiad yn lleol, gan gynnwys gan CND Cymru.

Gwrthododd llefarydd Syr Keir Starmer ddweud a oedd y Prif Weinidog yn cefnogi sylwadau Eluned Morgan am y rhaglen arfaethedig.

Dywedodd: “Bydd rhaglen Deep Space Advanced Radar Capability yn diogelu swyddi tymor hir yn Sir Benfro ac yng Nghymru, ac yn helpu i amddiffyn gwaith cyfathrebu lloeren a llywio hanfodol.

“Rydyn ni’n ymgysylltu â’r gymuned leol ar gynigion i ailddatblygu Barics Cawdor i gartrefu DARC, a fydd yn cael ei gweithredu gan bersonél y DU.

“Rydyn ni’n dilyn prosesau a gytunwyd gyda Chyngor Sir Penfro ac eisoes wedi cwblhau asesiad effaith amgylcheddol cynhwysfawr, gan gynnwys i sicrhau mai effaith fach iawn fydd y prosiect yn ei chael ar y gorwel lleol.

“Mae gan Farics Cawdor hanes hir o gefnogi milwrol y DU. Mae’r safle hwn wedi bod yn orsaf hedfan i’r Awyrlu Brenhinol ac yn ganolfan i’r Llynges Frenhinol.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru mai “dim ond ymgais olaf gan Eluned Morgan i lynu wrth ei sedd yw hyn. 

“Ers dod yn Brif Weinidog, mae hi wedi dewis aros yn dawel ar amddiffyn a materion rhyngwladol. Dim ond nawr mae hi’n siarad ar ôl i arolygon barn ddangos ei bod hi’n colli ei sedd.

“Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ar ailadeiladu cysylltiadau Ewropeaidd mewn ymateb i safbwyntiau cynyddol beryglus Trump.

“Rydym wedi gwrthwynebu DARC yn gyson ochr yn ochr â chymunedau lleol, gan basio cynnig yn ein cynhadledd flynyddol ym mis Hydref 2024 a chyflwyno cynnig seneddol yn San Steffan ym mis Mawrth 2025.”

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Reform: “Mae'n amlwg bod Eluned Morgan yn canolbwyntio ar faterion heb eu datganoli i dynnu sylw oddi wrth record ofnadwy ei phlaid mewn Llywodraeth gyda Phlaid Cymru.

"Yn wahanol i'r pleidiau eraill, dim ond Reform UK fydd yn canolbwyntio ar y gwaith dydd i dydd: gwasanaethau cyhoeddus sy'n darparu gwerth am arian ac yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr eu bod nhw’n anghytuno â safbwynt Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd wrth ohebwyr “na ddylai Prydain fod yn gwneud unrhyw beth a fydd yn achosi unrhyw fath o niwed economaidd i’r wlad hon am nad ydyn i’n hoffi pwy sydd yn y Tŷ Gwyn”.

“Mae’n rhaid i ni feddwl yn llawer mwy hirdymor,” ychwanegodd.

Holl ymgeiswyr sedd Ceredigion Penfro

Annibynnol: Paul Haywood Dowson.

Annibynnol: Aaron Carey.

Annibynnol: George Alexander Chadzy.

Ceidwadwyr Cymreig: Paul Windsor Davies; Samuel Deri Kurtz; Claire Victoria George; Brian Andrew Murphy; Gill Evans; Claire Malaina Jones

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: Sandra Louise Jervis; Alistair Cameron; Tom Hughes; Lee Herring; Andrew Lye; Maggie Robinson

Gwlad: Gwyn Wigley Evans

Llafur Cymru: Eluned Morgan; Marc Liam Tierney; Joshua Phillips; Margaret Greenaway; Tansaim Hussain-Gul; Luke Davies-Jones; Peter Huw Jenkins

Plaid Cymru: Elin Jones; Kerry Elizabeth Ferguson; Anna Nicholl; Cris Tomos; Colin Nosworthy; Clive Davies; Owain Jones; Matt Adams

Plaid Treftadaeth: Elizabeth Davies

Plaid Werdd Cymru: Amy Nicholass; Tomass Jereminovics; James Henry Purchase; Morgan Hope Phillips; Rosie O’Toole; Kezia Autumn Hine

Reform UK: Susan Claire Archibald; Paul Marr; Michael Timothy Allen; Elisa Bessie Gonzalez Randall; Peter Martin John; Bernard Holton

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.