Teclyn newydd i ddod o hyd i gynnwys ‘deepfake’ AI mewn etholiadau
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi lansio teclyn newydd gyda’r nod o ganfod cynnwys ‘deepfake’ deallusrwydd artiffisial (AI) sy’n bygwth camarwain pleidleiswyr.
Fe fydd y teclyn yn cael ei ddefnyddio wrth fonitro deunydd am etholiadau’r Senedd ar 7 Mai, yn ogystal ag etholiad Senedd yr Alban ac etholiadau yn rhai o gynghorau Lloegr ar yr un diwrnod.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn gofyn i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddileu deunydd sy’n codi pryderon difrifol fel rhan o’r cynllun peilot.
Mae yna bryderon y gallai deallusrwydd artiffisial gael ei ddefnyddio i ffugio geiriau neu negeseuon gan wleidyddion.
Yn etholiad arlywyddol Iwerddon y llynedd, rhannwyd fideo ffug ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn honni bod Catherine Connolly, a aeth ymlaen i ennill, wedi tynnu’n ôl o’r ras.
Fe gafodd y fideo ei gwylio 30,000 o weithiau cyn cael ei thynnu i lawr gan Meta, y cwmni sy’n gyfrifol am Facebook, Instagram a Threads.
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol nad oedd unrhyw etholiad yn y DU wedi cael ei effeithio eto gan gynnwys ‘deepfake’.
Ond fe rybuddiodd y corff fod etholiadau mewn gwledydd eraill y llynedd, gan gynnwys yn Yr Ariannin a De Corea, wedi dangos bod y dechnoleg yn dod yn fwy hygyrch.
Dywedodd prif weithredwr y Comisiwn Etholiadol, Vijay Rangarajan, y byddai’r peilot yn y DU yn rhoi hyder i bleidleiswyr.
“Mae pleidleiswyr eisiau gwybodaeth gywir. Ni ddylid rhannu fideos o ymgeiswyr sy’n fwriadol gamarweiniol neu’n sarhaus," meddai.
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol y bydd unrhyw ganfyddiadau’n cael eu cyhoeddi ar ôl yr etholiadau.