Ysgol ddreifio'r AA a BSM i dalu iawndal i ddysgwyr

Dysgwyr gyrru car

Mae ysgol ddreifio'r AA a'r BSM wedi cael gorchymyn i dalu iawndal i filoedd o ddysgwyr ar ôl methu a datgelu prisiau llawn gwersi pan yn bwcio.

Daw hyn wedi ymchwiliad gan y corff sydd yn cadw golwg ar y diwydiant.

Yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), wnaeth yr ysgol ddreifio AA a BSM ddim cynnwys y swm gorfodol bwcio o £3 pan roedd dysgwyr yn archebu gwersi.

Mae Automobile Association Developments hefyd wedi cael dirwy o £4.2m am dorri cyfraith defnyddwyr.

Bydd yn rhaid i berchennog ysgol ddreifio'r AA a'r BSM dalu yn ôl i fwy na 80,000 o gwsmeriaid gyda'r bil yn fwy na £760,000.

Bydd y swm yn amrywio o berson i berson yn dibynnu ar faint o wersi roedden nhw wedi prynu. Ond ar gyfartaledd bydd unigolion yn derbyn £9 o iawndal yr un.

Dyma'r tro cyntaf i'r CMA osod dirwy ariannol ar ôl i'r gyfraith defnyddwyr gael ei thorri ers i'r corff gael mwy o bwerau.

Dywedodd llefarydd ar ran ysgolion gyrru AA: “Er bod y ffi archebu o £3 wedi’i gwneud yn glir i gwsmeriaid cyn prynu, rydym yn cydnabod y dylai fod wedi arddangos ar ddechrau’r daith archebu ar-lein hefyd.

“Ar ôl gwrando ar y rheoleiddiwr, fe wnaethom ni newidiadau ar unwaith i’n gwefan i wneud y ffi archebu o £3 yn fwy amlwg.

“Rydym bellach yn ad-dalu’r holl gwsmeriaid perthnasol."

Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw yn "siomedig â chanlyniad yr ymchwiliad" ond wedi "cydweithredu’n llawn gyda'r CMA o'r dechrau a byddem yn pwysleisio bod amddiffyn hawliau defnyddwyr wedi bod yn ganolog i’n busnes ers dros 120 mlynedd.”

Llun: David Jones/PA 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.