Gŵyl Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd ar ôl cyfnod ym Mharc Biwt

Tafwyl

Fe fydd gŵyl Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd eleni.

Roedd yr ŵyl, a gafodd ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl, wedi symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt yn 2023, ar ôl “tyfu’n rhy fawr” i safle’r castell, yn ôl y trefnwyr.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 20 a 21 Mehefin eleni.

Ychwanegodd y trefnwyr y bydd Tafwyl yn ymestyn i ardal y ffos o flaen y Castell a’r gerddi y tu cefn oherwydd fod yr ŵyl "bellach yn rhy fawr i gael ei chynnwys o fewn muriau'r castell yn unig".

Mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi rhestr gyflawn o artistiaid ar gyfer yr ŵyl eleni, sydd yn cynnwys Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris, Martha Elen, Al Lewis, Taran a Sage Todz.

Mae'r ŵyl yn parhau i fod yn un am ddim, ond fe gyhoeddodd y trefnwyr ym mis Mawrth y byddai ardal Tocyn Aur yn rhan o'r ŵyl eleni, sef ardal o dan do gyda bar preifat, tai bach moethus a golygfa o'r Prif Lwyfan am bris o £20. 

Bydd yr ŵyl yn dathlu ei phenblwydd yn 20 oed eleni, ac fe fydd 'Parti Dathlu 20 mlynedd o Tafwyl' ar y prif lwyfan yn dod â’r ŵyl i ben.



 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.