Modd atal ymosodiad Southport pe bai asiantaethau a rhieni wedi 'gweithredu ynghynt'
Mae ymchwiliad i lofruddiaethau Southport wedi dod i'r casgliad y gellid fod wedi atal yr ymosodiad gan Axel Rudakubana mewn ysgol ddawns, pe bai ei rieni ac asiantaethau wedi gweithredu ynghynt yn sgil dirywiad yn ei ymddygiad.
Tra'n siarad ar ôl i'r adroddiad 700 tudalen gael ei gyhoeddi, dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad Syr Adrian Fulford mewn gwrandawiad yn Lerpwl y "dylai'r ymosodiad fod wedi ei atal."
Mae'r adroddiad wedi ei gyhoeddi yn dilyn ymchwiliad a barodd naw wythnos yn Neuadd y Dref yn ninas Lerpwl y llynedd.
Mae'r ddogfen yn nodi 67 argymhelliad ac yn feirniadol o rôl sawl asiantaeth yn ogystal â rhieni'r llofrudd Axel Rudakubana a gafodd ei fagu am gyfnod yng Nghaerdydd.
Cafodd Alice da Silva Aguiar, a oedd yn naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, eu llofruddio gan Rudakubana wedi iddo fynd i mewn i weithdy dawns yn Southport gyda chyllell ar 29 Gorffennaf 2024.
Ceisiodd Rudakubana, a oedd yn 17 oed ar y pryd, lofruddio wyth yn rhagor o blant nad oes modd cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol, yn ogystal â'r hyfforddwraig ddawns, Leanne Lucas, a'r dyn busnes John Hayes.
Yn ôl cadeirydd yr ymchwiliad Syr Adrian Fulford, roedd dau brif gasgliad i'r ymchwiliad.
Roedd rhieni Rudakubana ar fai am beidio â chysylltu â'r awdurdodau i nodi'r dirywiad yn ei ymddygiad.
A nododd fod asiantaethau ym maes iechyd, addysg a phlismona hefyd wedi methu â "rheoli'r risg amlwg" yn achos Rudakubana
Pe bai nhw wedi gwneud hynny, dywedodd Syr Adrian Fulford ei bod yn "debygol iawn" na fyddai'r ymosodiad wedi digwydd.
Ychwanegodd fod tad y llofrudd, Alphonse, a'i fam Laetitia Muzayire, wedi methu â delio a'u mab na gosod ffiniau. Ac er fod Syr Adrian yn cydnabod iddyn nhw ei chael yn anodd rheoli eu mab, roedd e o'r farn eu bod nhw ar fai.
Ychwanegodd: "Roedden nhw'n gwybod iddo brynu arfau, ac yn ymwybodol iddo geisio gadael y tŷ i gynnal rhyw fath o ymosodiad yn ei hen ysgol, wythnos cyn yr ymosodiad."
Ymddiheuriad
Dywedodd Mark Wynn, Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerhirfryn ei fod yn cydnabod casgliadau'r cadeirydd, gan ddiolch i Syr Adrian Fulford am ei archwiliad trylwyr o'r amgylchiadau cyn y drasiedi.
"Mae ein meddyliau gyda theuluoedd Elsie Dot Stancombe, Alice da Silva Aguiar a Bebe King, gyda'r rhai a gafodd eu hanafu a phawb y mae'r ymosodiad yn Southport ar 29 Gorffennaf 2024 wedi effeithio arnyn nhw," meddai.
"Mae'n wir ddrwg gennym am y methiannau sydd wedi eu nodi, a'n rhan ni yn y gwendidau cyn yr ymosodiad yn Southport. Rydym yn gwybod na all geiriau leddfu poen y teuluoedd a gollodd anwyliaid, na phoen y rhai a gafodd eu hanafu.
"Ers 2019, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'n harferion diogelu, a bydd casgliadau'r cadeirydd o fudd wrth i ni barhau i wella. Rydym yn ymrwymo i weithredu pob un o'r argymhellion yn llwyr.
"Byddwn yn parhau i gydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad wrth iddo symud i'r cam nesaf."
Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer: “Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn ymateb i'r adroddiad hwn yn fuan, ond fel y dywedodd y Prif Weinidog y llynedd, mae'n rhaid cael atebion i'r teuluoedd a phobl Southport. Dyna pam y cafodd ymchwiliad ei agor cyn gynted â bo modd. "
Daeth datganiad cadeirydd yr ymchwiliad i ben gyda munud o dawelwch er cof am y dioddefwyr.