Cantores Girls Aloud, Sarah Harding, wedi marw wedi brwydr â chanser

The Independent

Mae Sarah Harding, aelod o'r grŵp pop Girls Aloud, wedi marw.

Fe gyhoeddodd y gantores, oedd yn 39 oed, y llynedd ei bod wedi derbyn diagnosis o ganser y fron.

Fe gafodd ei marwolaeth ei chyhoeddi ddydd Sul gan ei mam, Marie, ar Instagram.

Dywedodd ei mam: "Gyda chalon drom rwy'n rhannu'r newyddion fod fy merch brydferth Sarah wedi marw.

"Bydd llawer ohonoch yn gwybod am frwydr Sarah â chanser a’i bod wedi ymladd mor gryf o’i diagnosis tan ei diwrnod olaf. Fe wnaeth hi'n gadael ni'n heddychlon y bore yma. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth garedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yn golygu'r byd i Sarah a rhoddodd gryfder a chysur mawr iddi wybod ei bod hi'n cael ei charu."

“Rwy’n gwybod na fyddai hi eisiau cael ei chofio am ei brwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn - roedd hi’n seren ddisglair a gobeithio mai dyna sut y gellir ei chofio yn lle.”

Darllenwch y stori'n llawn yma.