Tri thymor arall i gyfres ‘Welcome to Wrexham’

Welcome to Wrexham

Mae’r gyfres deledu ‘Welcome to Wrexham’ wedi cael ei chomisiynu am dri thymor ychwanegol.

Mae’r gyfres yn dilyn Clwb Pêl-droed Wrecsam ar, ac oddi ar  y cae ar ôl i sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb.

Fe fydd y gyfres nawr yn parhau tan 2029 am wythfed tymor.

Dywedodd Reynolds wrth ei 50 miliwn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol: “Mae pumed tymor anhygoel Welcome to Wrexham yn cael ei ddarlledu ar Fehefin 14 ac mae wedi’i adnewyddu am dri yn rhagor!

“Llongyfarchiadau i’n tîm dogfen, y dref, a CPD Wrecsam am wneud pethau mor ddramatig a llawn straen bob amser. Da ar gyfer teledu, drwg ar gyfer pwysedd gwaed.”

Dechreuodd y gyfres yn 2022, ac mae wedi ennill 10 gwobr Emmy .

Prynodd Reynolds a McElhenney Wrecsam am £2 filiwn ym mis Chwefror 2021 ac maen nhw wedi arwain y tîm allan o bumed adran pêl-droed Lloegr, i fyny i'r Bencamwpriaeth.  

Mae'r tîm ar hyn o bryd yn y seithfed safle yn y Bencampwriaeth, a byddai gorffen yn y chwe uchaf yn rhoi'r cyfle iddynt gystadlu am ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.