Llong ofod Artemis II yn dychwelyd i'r Ddaear ar ôl teithio heibio'r Lleuad

Artemis yn glanio

Mae llong ofod Artemis II wedi dychwelyd i'r Ddaear ar ôl ei thaith i ochr draw y Lleuad. 

Fe wnaeth y criw lanio oddi ar arfordir San Diego yn UDA tua 20:00 amser lleol, gyda'r criw yn "hapus ac yn iach" yn ôl asiantaeth ofod Nasa. 

Fe lwyddodd y criw o ofodwyr i dorri'r record am y pellter hiraf o'r Ddaear y mae pobl erioed wedi ei gyrraedd, gan fynd mor bell a 252,757 o filltiroedd.

Mae hynny'n torri'r record flaenorol a gafodd ei gosod gan griw Apollo 13 yn 1970, a deithiodd 248,655 milltir o'r Ddaear.

Dyma hefyd y tro cyntaf i ofodwyr adael orbit y ddaear ers 1972, dros 50 mlynedd yn ôl.

Nid y bwriad oedd i'r llong ofod lanio ar y Lleuad, ond yn hytrach i deithio i'w hochr bellaf, sef yr ochr nad yw byth yn weladwy o'r Ddaear.

Mae lloerenni wedi cymryd lluniau o'r ochr bellach yn y gorffennol, ond dyma'r tro cyntaf i ofodwyr weld yr ochr yma gyda'u llygaid eu hunain.

Nos Lun, fe wnaeth y llong ofod basio heibio'r Lleuad, gan golli cyswllt am tua 40 munud.

Image
Criw Artemis
Criw Artemis

Dywedodd y gofodwr Victor Glover ei fod yn gobeithio y bydd y byd yn defnyddio'r profiad i ddod at ei gilydd. 

"Pan rydym ni y tu ôl i'r Lleuad, allan o gyswllt â phawb, gadewch i ni ddefnyddio hynny fel cyfle," meddai. 

Cafodd y roced sydd yn 322 troedfedd o hyd ac yn cludo pedwar aelod o'r criw ei lansio yn llwyddiannus o Cape Canaveral yn Florida, UDA ddydd Mercher diwethaf.

Roedd y pedwar gofodwr, sef Reid Wiseman, Victor Glover, Christina Koch a Jeremy Hansen, wedi cylchdroi'r Ddaear am tua 25 awr cyn anelu tuag at y Lleuad.

Er na fydd y gofodwyr yn glanio ar y lloeren, mae taith Artemis II yn paratoi'r ffordd ar gyfer glanio ar y Lleuad yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gosod sylfaen i anfon criw i blaned Mawrth meddai Nasa.

Gobaith Nasa yw bydd gofodwyr yn dychwelyd i'r Lleuad cyn 2028, tra bod Tsieina yn bwriadu gwneud hynny erbyn 2030.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.