Cyn-gynhyrchydd BBC Cymru yn euog o feddu ar luniau anweddus o blant
Mae cyn-gynhyrchydd gyda BBC Cymru wedi ei ganfod yn euog o feddu ar luniau anweddus o blant.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener fe wnaeth y rheithgor o bedwar dyn ac wyth menyw ddyfarnu bod Dylan Dawes, 50 oed yn euog o’r chwe chyhuddiad yn ei erbyn.
Roedd yn wynebu tri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant, a thri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant ar bedair dyfais wahanol.
Clywodd y llys bod 6,277 o ddelweddau anweddus o blant wedi cael eu darganfod ar ddyfais hard drive, gliniadur, a dau iPad oedd yn berchen i Mr Dawes.
Roedd bron i 200 o’r lluniau yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
Bydd Dawes yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 14 Mai.
Dyfeisiau
Yn ystod yr achos roedd wedi honni mai rhywun arall oedd wedi llwytho'r lluniau anghyfreithlon ar ei ddyfeisiau.
Cafodd ei arestio gan swyddogion yn ei gartref yn ardal Treganna o Gaerdydd ar 28 Chwefror 2022, ac fe gafodd y dyfeisiau eu meddiannu gan yr heddlu.
Mewn cyfweliadau gyda’r heddlu wedi iddo gael ei arestio fe wnaeth Mr Dawes wadu meddiannu a chreu unrhyw luniau anweddus o blant.
Dywedodd mewn datganiad i’r heddlu nad oedd ganddo “ddiddordeb mewn plant” ac “nad oedd yn ymwybodol” ei fod wedi creu na lawrlwytho delweddau anweddus o blant.
Wrth i’r achos ddatblygu fe honnodd Mr Dawes fod nifer o aelodau o staff y BBC yn defnyddio gliniaduron, hard drives a chyfarpar ei gilydd yn hen swyddfa’r gorfforaeth yn Llandaf lle’r oedd yn gweithio.
'Ymddiriedaeth'
Ychwanegodd Mr Dawes fod “ymdeimlad o ymddiriedaeth” yn y gweithle, a bod aelodau staff yn defnyddio cyfarpar ei gilydd gan gynnwys gliniaduron.
Dywedodd ei fod yn mynd â’i liniadur personol a hard drive personol, oedd yn cael eu defnyddio at ddibenion gwaith, i’r swyddfa yn aml.
Roedd lluniau anweddus o blant wedi eu darganfod gan yr heddlu ar y ddwy ddyfais.
Wrth roi tystiolaeth yn y llys dywedodd Mr Dawes ei fod yn credu bod person neu bobl eraill wedi larwlwytho’r lluniau ar ei ddyfeisiau.
“Dwi yn bendant yn ddioddefwr wedi i rywun arall lawrlwytho’r lluniau hyn ar y dyfeisiau,” meddai.
Dywedodd Dawes nad oedd modd adnabod pwy oedd yn berchen ar ba ddyfais heb eu cysylltu i gyfrifiadur yn ei swyddfa.
Dywedodd hefyd nad oedd angen cyfrinair i ddefnyddio ei ddyfeisiau.