Prif swyddog elusen i'r henoed yn y gogledd wedi ei diswyddo yn dilyn twyll ariannol
Gall Newyddion S4C ddatgelu fod prif swyddog un o elusennau'r henoed mwyaf yn y gogledd wedi ei diswyddo yn dilyn twyll ariannol.
Roedd Caryl Jones yn Brif Swyddog ar elusen Age Cymru Gwynedd a Môn tan iddi gael ei diswyddo ddiwedd mis Ionawr.
Cafodd y twyll ei gyfeirio at yr heddlu gan ymddiriedolwyr yr elusen.
Fe arweiniodd hyn at Caryl Jones yn derbyn rhybudd amodol gan yr heddlu yn dilyn honiad o dwyll drwy gamddefnyddio swydd.
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Gallwn gadarnhau bod swyddogion wedi ymchwilio i honiad o dwyll drwy gamddefnyddio swydd yn dilyn adroddiad a wnaed i ni ar 9 Chwefror.
"Cafodd menyw 33 oed ei harestio wedi hynny mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac arweiniodd y mater at rybudd amodol."
Mae'n rhaid i unigolyn gyfaddef ei euogrwydd wrth dderbyn rhybudd amodol gan yr heddlu.
Mewn datganiad dywedodd Caryl Jones wrth Newyddion S4C fod y "materion rydych yn cyfeirio atynt yn rhan o anghydfod cyfreithiol parhaus" mewn tribiwnlys cyflogaeth.
"Oherwydd natur y prosesau cyfreithiol hyn, nid wyf yn gallu gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."
'Camau priodol'
Mewn ymateb i gwestiynau gan Newyddion S4C, dywedodd Dafydd Iwan, cadeirydd ymddiriedolwyr Age Cymru Gwynedd a Môn fod yr elusen wedi mynd "drwy'r camau priodol dan gyfarwyddyd ein hymgynghorwyr cyflogaeth, ac arweiniodd hynny at ddiswyddo'r Prif Weithredwr ar Ionawr 30ain".