Dadorchuddio ffenest goffa arbennig mewn eglwys ar Ynys Môn
Fe fydd ffenest goffa arbennig yn cael ei dadorchuddio mewn eglwys ar Ynys Môn yr wythnos nesaf.
Bydd y ffenest wydr lliwgar yn coffáu’r llong hyfforddi HMS Conway, ac yn cael ei dadorchuddio yn Eglwys Llanedwen, Llanfairpwllgwyngyll ar 18 Ebrill.
Mae'r ffenest yn adlewyrchu cysylltiad y llong â'r ardal, gyda chadetiaid y llong yn mynd i wasanaethau yn yr eglwys am flynyddoedd.
Roedd HMS Conway wedi’i hangori oddi ar Blas Newydd ar Afon Menai, ac yn flaenorol ger Glyn Garth oddi ar Fangor.
Cafodd y llong ei dryllio ar y lan ym 1953 wrth gael ei thynnu i'w thrwsio.
Fe gafodd y ffenestr ei dylunio a’i chreu gan yr artist gwydr Jayne Ford, ac mae'n cynnwys tri phanel.
Roedd HMS Conway yn llong hyfforddi o 1859 tan 1974, gan baratoi dros 11,000 o fechgyn rhwng 13 a 18 oed ar gyfer gyrfaoedd fel swyddogion yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol.
Mae ffenestri coffa tebyg eisoes wedi’u gosod ym Mhrïordy Penbedw, ar Bier Bangor ac ym Mhlas Newydd.
'Uchafbwynt teilwng'
Dywedodd Alfie Windsor, Ymddiriedolwr Cyfeillion HMS Conway: “Roedd hyfforddiant Conway yn cael ei gydnabod fel un o’r goreuon yn y byd ac fe gynhyrchodd swyddogion ifanc o’r safon uchaf.
"Aeth ei chadetiaid ymlaen i fod yn forwyr blaenllaw ledled y byd, yn gapteniaid ar longau a fflydoedd. Buont yn byw bywyd o deyrngarwch a gwasanaeth i’w gwlad.
“Mae Cyfeillion HMS Conway yn bodoli i ddiogelu enw da a chof y llong a’i chadetiaid. Rydym eisoes wedi creu ffenestri coffa tebyg yn ei hen angorfeydd ar Afon Mersi, oddi ar Bier Bangor ac ym Mhlas Newydd. Mae ffenestr Eglwys Llanedwen yn uchafbwynt teilwng a theimladwy o’n hymdrechion.”
Ychwanegodd: “Eglwys Llanedwen oedd ein heglwys ni, felly, wrth i atgofion am HMS Conway ddirywio, mae’n galonogol gwybod y bydd cof y llong yn cael ei gadw’n barhaol drwy’r ffenestr wydr lliw hon.”
