Prif leisydd Led Zeppelin yn derbyn gwobr mewn siop recordiau yng Nghaerdydd

 Robert Plant

Mae prif leisydd y grŵp roc Led Zeppelin wedi derbyn gwobr arbennig mewn siop recordiau yng Nghaerdydd. 

Fe wnaeth Robert Plant ymweld â siop Spillers Records yn Arcêd Morgan yn y brifddinas er mwyn derbyn y wobr 'Record Store Legend'.

Mae'r wobr yn cydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth ar draws y byd a'i ymroddiad i gefnogi artistiaid newydd a siopau recordiau, yn ogystal â'i gysylltiad â Chymru sydd wedi ysbrydoli nifer o'i ganeuon dros y degawdau.

Mae Plant wedi dweud yn flaenorol fod cefn gwlad Cymru wedi helpu i ysbrydoli ei albwm Carry Fire, a gafodd ei ryddhau yn 2017.

Cafodd y rhan fwyaf o drydydd albwm Led Zeppelin ei ysgrifennu ym Mron-yr-Aur, bwthyn anghysbell ger Machynlleth yn 1970.

Y gred yw fod rhannau o’r gân boblogaidd Stairway To Heaven hefyd wedi’u hysgrifennu yno.

Wrth siarad yn Spillers Records, dywedodd Robert Plant: "Mae siopau recordiau wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. I mi, unwaith y byddwch chi'n cyrraedd y record, mae hynny oherwydd eich bod chi wir eisiau gwybod a bod yn rhan o'r hyn yr oedd yr artist yn ei ystyried. 

"Ac rwy'n gwybod, fel dyn sydd wedi bod yn gwneud recordiau ers 1966, fod pobl eisiau mynd â rhywbeth arbennig iawn adref, i fwynhau holl elfennau'r hyn y mae artist wedi'i roi at ei gilydd. Rydyn ni eisiau cysylltiad rhwng y gerddoriaeth a chelf y cyfan."

Fe gafodd Spillers Records ei sefydlu yn 1894 gan Henry Spiller ac mae'n cael ei ystyried yn eang i fod y siop recordiau hynaf yn y byd.

Fe dderbyniodd Plant y wobr yn y siop ddiwrnod cyn Diwrnod y Siopau Recordiau 2026, sef dathliad blynyddol o siopau recordiau ar draws y byd.

Dywedodd Ashli ​​Todd o Spillers Records ei fod yn "anrhydedd" cael cyflwyno'r wobr i Plant.

"Mae’r bydysawd eisoes yn cydnabod Robert Plant fel chwedl, fel sy'n cael ei brofi gan ei ddegawdau o recordio a pherfformio," meddai.

"Ond bydd siopau recordiau’r byd yn gwybod yn uniongyrchol bod Robert Plant yn arbenigwr o’i gelfyddyd, a bod ei frwdfrydedd am ddarganfod cerddoriaeth heb ddiflannu gydag amser."

Mae’r wobr yn anrhydedd ar y cyd gan Ddiwrnod Siop Recordiau’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Elton John oedd enillydd cyntaf y wobr yn 2017 a hynny i nodi penblwydd Diwrnod Siop Recordiau yn 10 oed.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.