Gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghastell y Waun ar ôl i fachgen fynd i’r dŵr
Mae'r gwasanaethau brys yn delio â digwyddiad yng Nghastell Y Waun, sir Wrecsam, wedi adroddiadau fod bachgen 17 oed wedi mynd i mewn i'r dŵr yno brynhawn Mawrth.
Nid yw'r bachgen wedi cael ei weld ers hynny yn ôl yr heddlu.
Mae ymgyrch chwilio a thimau achub yn parhau yn eu hymdrechion i ddod o hyd i'r bachgen.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Sian Beck: “Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i anwyliaid, sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol yn ystod yr amser anodd hwn.
"Rydym yn gofyn yn garedig i aelodau o'r cyhoedd i osgoi ardal Castell Y Waun tra bod y gwasanaethau brys yn cynnal eu hymchwiliad.
"Rydym yn ymwybodol fod y digwyddiad yma yn debygol o achosi pryder, ac rydym yn gwerthfawrogi cydweithrediad y cyhoedd."