Ymgyrch codi arian i gefnogi llais stadiwm yr Elyrch sy'n gwella o strôc yn cyrraedd £15,000

Kev Johns MBE

Mae ymgyrch codi arian i gefnogi cyflwynydd a pherfformiwr o Abertawe sy'n gwella o strôc wedi cyrraedd £15,000.

Mae Kevin Johns MBE yn fwyaf adnabyddus fel llais stadiwm yr Elyrch, ac mae'n perfformio'n rheolaidd ym mhantomeim Theatr y Grand Abertawe.

Mewn neges ar apêl codi arian ar wefan JustGiving, dywedodd ei ffrind Jessica Rice ei fod wedi bod yn "galon Abertawe ers degawdau" ond ei fod yn methu gweithio ar hyn o bryd gan ei fod yn gwella o strôc - blynyddoedd yn unig ar ôl iddo dderbyn triniaeth canser.

"Ar ôl dioddef strôc, mae Kev yn wynebu cyfnod o adferiad lle nad yw'n gallu gweithio, ac mae hyn yn dod ar ôl profi ychydig flynyddoedd heriol eisoes," meddai

"Drwy'r cyfan, mae wedi aros yr un dyn caredig, hael, cymunedol rydyn ni i gyd yn ei adnabod ac yn ei garu. Mae ei wraig anhygoel, Rosie, wedi bod wrth ei ochr bob cam o'r ffordd, gan gynnig cryfder, cariad a chefnogaeth ddiysgog. 

"Byddai Kev eisiau i bawb wybod faint mae'n ei charu hi. Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol ystyr gwir briodas - Rosie yno ddydd a nos, yn cerdded pob rhan o'r daith hon gydag ef. Mae hyn yn rhywbeth maen nhw'n ei wynebu gyda'i gilydd."

Image
Kevin Johns a'i wraig
Kevin a Rosie Johns

Fe aeth ymlaen i ddweud bod yr ymgyrch yn "gyfle i roi yn ôl i rywun sydd wedi treulio ei fywyd yn rhoi i eraill".

"Drwy leddfu'r pwysau ariannol ar Kev a Rosie, gallwn eu helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf - ei iachâd, ei gryfder a'i daith yn ôl i iechyd," meddai.

"Rydyn ni eisiau i Kev ddychwelyd i wneud yr hyn mae Kev yn ei wneud orau - a bydd yn gwneud hynny'n sicr!! Ond mae angen y lle a'r rhyddid arno i wella'n iawn yn gyntaf.

"Os yw Kev erioed wedi gwneud i chi wenu, codi eich calon, cefnogi eich elusen, goleuo eich bore, neu wneud i chi deimlo'n rhan o rywbeth mwy, ystyriwch gyfrannu. 

"Mae pob cyfraniad, mawr neu fach, yn arwydd o gariad a diolchgarwch i ddyn sydd wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.