Cyhuddo tri dyn mewn cysylltiad â llosgi ambiwlansys Iddewig yn Llundain

Ambiwlansys Hatzola

Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo ar ôl i bedwar ambiwlans cymunedol Iddewig gael eu llosgi'n fwriadol yng ngogledd Llundain.

Bydd dau ddyn o Brydain - Hamza Iqbal, 20 oed, a Rehan Khan, 19 oed - a bachgen 17 oed sy'n ddinesydd Prydeinig-Pacistanaidd, yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Sadwrn.

Cafodd y tri eu cyhuddo o losgi bwriadol ar ôl cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad Plismona Gwrthderfysgaeth (CTP).

Cafodd pedwar ambiwlans o Hatzola - gwasanaeth ambiwlans cymunedol Iddewig sy'n gweithredu yn ardal Golders Green yng ngogledd-orllewin Llundain - eu rhoi ar dân yn oriau mân 23 Mawrth, gan achosi i ganiau nwy a oedd yn cael eu storio yn y cerbydau ffrwydro.

Dywedodd y Comander Helen Flanagan, pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain: "Ers yr ymosodiad erchyll hwn yr wythnos diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n barhaus i ymchwilio ac adnabod y rhai sy'n gyfrifol.

"Mae’r ymchwiliad bellach wedi cyrraedd cam lle mae tri o bobl wedi’u cyhuddo a byddant nawr yn ymddangos yn y llys."

Cafodd dau ddyn arall, 45 a 47 oed, a gafodd eu harestio'r wythnos diwethaf, ac sydd hefyd yn Brydeinig, eu rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Ebrill.

Nid yw’r achos yn cael ei drin fel terfysgaeth, ond dywedodd CTP fod yr ymchwiliad yn cael ei arwain gan ei dditectifs oherwydd "amgylchiadau’r digwyddiad".

Dywedodd Frank Ferguson, pennaeth adran troseddau arbennig a gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Rydym yn atgoffa pawb dan sylw fod achosion troseddol yn erbyn y diffynyddion hyn yn weithredol a bod ganddynt yr hawl i gael achos teg.

"Mae’n hanfodol na ddylai fod unrhyw adroddiadau, sylwebaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achos hwn mewn unrhyw ffordd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.