Ras i ddod o hyd i aelod o luoedd America ôl i'w awyren gael ei saethu i lawr
Mae lluoedd yr Unol Daleithiau ac Iran yn ceisio dod o hyd i swyddog Americanaidd sydd ar goll ar ôl i'w awyren gael ei saethu i lawr.
Roedd y swyddog systemau arfau ar fwrdd awyren ymladd F-15 yr Unol Daleithiau a gafodd ei saethu i lawr yn ne Iran, yn ôl adroddiad gan wasanaeth CBS News.
Cafodd peilot yr awyren ei achub, ond nid yw'n hysbys beth sydd wedi digwydd i'r swyddog sydd ar goll.
Mae lluoedd diogelwch Iran yn chwilio'r rhanbarth am yr aelod arall o'r criw, gyda swyddogion yn y wlad yn annog dinasyddion i ddod o hyd iddo "yn fyw" ac yn cynnig gwobr o tua £50,000 ($66,100) am ei ddal, meddai cyfryngau'r wlad.
Mae Iran yn honni ei fod wedi saethu ail awyren ryfel Americanaidd i lawr uwchben y Gwlff.
Mae cyfryngau'r Unol Daleithiau yn dweud bod awyren A-10 Warthog wedi cael ei saethu wrth chwilio am yr awyren gyntaf a gafodd ei saethu i lawr.
Daw'r ymgyrch i chwilio am y swyddog coll wrth i Israel ddweud ei fod wedi cynnal cyfres newydd o ymosodiadau ar "seilwaith allweddol" yn Tehran.
Yn Israel, mae'r gwasanaethau brys yn dweud bod un person wedi'i anafu ar ôl i ymosodiad taflegrau o Iran gael ei rwystro.
Llun: Awyren ryfel F-15E gan Wikimedia Commons