Rhybudd tywydd i ogledd a gorllewin Cymru dros benwythnos y Pasg
Mae rhybudd tywydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer sawl sir yng Nghymru dros benwythnos y Pasg wrth i Storm Dave daro'r wlad.
Mae’r rhybudd am wyntoedd “cryf iawn” yn berthnasol i Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, a Sir y Fflint, yn ogystal â Cheredigion, Sir Benfro a Phowys.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod cyfnod o wyntoedd cryf iawn ar y ffordd rhwng 17.00 ddydd Sadwrn 4 Ebrill a 07.00 ddydd Sul 5 Ebrill.
Mae’n bosib y bydd hyrddiau o 50 i 60mya yn eithaf cyffredin, gyda 60 i 70mya mewn mannau mwy agored.
Er bod rhywfaint o ansicrwydd o hyd am union lwybr a chryfder y system, mae disgwyl gwyntoedd cryfion o’r gorllewin i’r de-orllewin ar draws Cymru nos Sadwrn ac i mewn i oriau cynnar Sul y Pasg.
Bydd y gwyntoedd yn gostegu'n raddol yn hwyrach ymlaen yn y dydd.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod oedi’n debygol ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, yn ogystal ag i wasanaethau awyr a fferi, gyda chanslo rhai gwasanaethau yn bosib.
Mae posibilrwydd hefyd y gallai toriadau pŵer ddigwydd, a hynny’n gallu effeithio ar wasanaethau eraill fel signal ffonau symudol.
Mae'r rhagolygon hefyd yn rhybuddio bod siawns fach o ddifrod i adeiladau, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau.