Dyn yn pledio'n euog i 30 cyhuddiad yn ymwneud â chladdu pobl yn gyfreithlon

Robert Bush

Mae dyn wedi pledio'n euog i 30 cyhuddiad o atal claddu cyrff y meirwon mewn ffordd gyfreithlon. 

Daeth yr heddlu o hyd i 35 o gyrff a mwy na 100 set o ludw dynol mewn safle ymgymerwyr angladdau yn Hull ym mis Mawrth 2024.

Fe gafodd yr trefnwr angladdau Robert Bush ei gyhuddo o 30 achos o atal claddedgaeth gyfreithlon.

Yn wreiddiol fe wnaeth Bush, 48 oed, wadu'r cyhuddiadau mewn gwrandawiad llys ym mis Hydref y llynedd, ond fe newidiodd ei ble ddydd Iau gan gyfaddef i'r 30 cyhuddiad. 

Plediodd yn euog hefyd o ddwyn gan 12 elusen gan gynnwys Byddin yr Iachawdwriaeth a Chymorth Canser Macmillan. 

Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth nes fydd gwrandawiad dedfrydu ar 27 Gorffennaf, ond fe rybudiodd y barnwr Mr Ustus Hilliard fod dedfryd yn y carchar yn "anochel". 

Dywedodd Chris Paxton KC ar ran yr erlyniad y byddai yna tua 240 o ddatganiadau effaith dioddefwyr yn cael eu darparu cyn y gwrandawiad dedfrydu gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achos.

Dywedodd Richard Wright KC sy'n cynrychioli Bush fod y diffynnydd yn "deall yn iawn mai dim ond un math o ddedfryd sydd yn yr achos hwn, sef dedfryd yn y carchar."

Yng ngwrandawiad mis Hydref y llynedd, fe wnaeth Bush gyfaddef 30 cyhuddiad o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug yn ymwneud â'r un 30 person. 

Fe wnaeth Heddlu Humberside lansio ymchwiliad i fusnes Bush yn dilyn adroddiad am "bryder am ofal cyrff y meirw" ym mis Mawrth 2024. 

Dywedodd y llu fod y 35 o gyrff a gafodd eu darganfod yn y tŷ angladdau wedi cael eu cludo i'r corffdy (mortuary) i gael eu hadnabod. 

Yno daeth i'r amlwg mai dim ond pedwar ddylai fod wedi bod yno a bod y gweddill wedi cael eu cadw “yn llawer hirach nag oedd angen”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.