Dylanwad TikTok yn gyrru pobl ifanc at Gristnogaeth'
Mae agweddau pobl ifanc tuag at Gristnogaeth yn newid o ganlyniad i ddylanwad platfformau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok.
Dyna yw cred y dylanwadwr Melys Edwards, wnaeth ymddangos ar gyfres ddiweddaraf Amour a Mynydd ar S4C.
Daw hyn wrth i'r defnydd o'r hashnod #christian dyfu'n sylweddol ar gyfryngau cymdeithasol. Erbyn dechrau 2026, mae fideos Cristnogol yn cael eu gwylio dros 50 biliwn o weithiau yn fyd-eang.
Cafodd Melys, cantores a chyfansoddwr o Wrecsam, ei magu gyda mam Gristnogol a thad sydd yn anffyddiwr.
Er ei bod hi wastad wedi bod yn agored i’r syniad o grefydd, fe wnaeth hi ddechrau dilyn Cristnogaeth ar ôl i’r “Ysbryd ddod i mewn i’w bywyd".
“Mae’n fwy am berthynas fi gyda fy hun, gyda Duw, gyda’r Ysbryd, nag ydy e am berthynas fi gyda’r Eglwys," meddai.
Esbonia Melys iddi synhwyro “casineb” yn yr eglwys “draddodiadol”, gyda’r syniad o bobl yn mynd i uffern fel cosb, er enghraifft. Yn ôl hi, byddai hyn wedi troi cenedlaethau i ffwrdd o grefydd.
“Rŵan, mae'n cael cynrychiolaeth gywir yn hytrach na projection negyddol gan genedlaethau hŷn”.
Mae Melys bellach yn rhan o gymuned ddigidol ar gyfryngau cymdeithasol sy’n trafod eu profiadau nhw o ffeindio Cristnogaeth ac yn rhannu eu tystiolaethau o effaith Duw ar eu bywydau.
“Rhwng TikTok a YouTube, mae gan bobl fel fi berthynas gyda Duw i ffwrdd o’r Eglwys," meddai.
"Dw’i jyst yn berson gydag enaid a chred.”
Canmoliaeth i’r cyfryngau cymdeithasol
Mae’r Parchedig Ross Maidment, sy’n gwasanaethu ardaloedd Maerun yng Nghasnewydd a Threthomas yng Nghaerffili, yn dweud bod cenhedlaeth Gen Z yn llawer mwy chwilfrydig ac agored i dystiolaethau ar blatfformau fel TikTok.
Dywedodd: “Fe wnaeth un bachgen ffeindio crefydd trwy TikTok, ac yn 16 oed, fe ddechreuodd e ddod i’n gweld ni a chael ei fedyddio.”
Mae e’n teimlo bod yr hinsawdd wleidyddol bresennol yn creu ofn a phryder sy’n arwain pobl at ofod lle maen nhw’n gweld “gobaith a chariad diamod”.
“Mae’r byd yn dod yn llai sefydlog, felly mae pobl yn edrych am rywbeth i roi gobaith iddyn nhw," meddai.
Dywedodd Ross fod yr Eglwys yn addasu ar gyfer y genhedlaeth iau, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol.
“Mae’n bwysig i ni newid gyda’r oes. Fe rewodd Cristnogaeth mewn amser, ond ry’n ni nawr yn ceisio ymateb i ofynion pawb.”
Er mwyn ceisio bod yn fwy hygyrch, mae gan eglwys Ross blatfform mwy ar gyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw’n cynnal digwyddiadau llai ffurfiol i groesawu pawb.
“Ddwy neu dair blynedd yn ôl, ‘mond tua 20 person oedd yn dod i’n heglwys ni," meddai.
"Nawr, mae bron i 50 yn dod.”