CPD Wrecsam yn beirniadu sylwadau 'rhywiaethol a misogynistaidd' wedi buddugoliaeth eu menywod

Tlws Genero

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi rhyddhau datganiad yn beirniadu sylwadau "rhywiaethol a misogynistaidd" gafodd eu gwneud ar-lein wedi i dîm menywod y clwb ennill tlws y Brif Adran Genero nos Sul.

Fe wnaeth Wrecsam guro Caerdydd 4-1 ar y Stok Cae Ras, gan ennill y teitl am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y clwb eu bod yn ymwybodol o sylwadau rhywiaethol a misogynistaidd a rannwyd ar-lein yn dilyn y gêm. 

"Gadewch inni fod yn glir: nid oes lle i safbwyntiau o'r fath mewn pêl-droed, yn ein Clwb, nac mewn cymdeithas. Nid ydynt yn cynrychioli pwy ydym ni, yr hyn yr ydym yn ei gynrychioli, na'r gefnogaeth gadarn y tu ôl i'r tîm hwn.

"Ni fyddwn yn caniatáu i'r ymddygiad hwn gysgodi moment wych i bêl-droed menywod yng Nghymru. Mae ein ffocws yn parhau'n gadarn ar ddathlu ein chwaraewyr a pharhau i dyfu'r gêm.

"Rydym hefyd yn siomedig gyda rhai sefydliadau sy'n dewis peintio'r gêm ddomestig yma yng Nghymru mewn goleuni negyddol. Yng ngêm ddomestig y dynion a'r menywod, mae llawer o waith effeithiol yn cael ei wneud, ond anaml iawn y mae'r straeon hynny'n cael eu hyrwyddo."

Ychwanegodd datganiad y clwb: "Rydym yn sefyll yn ddiamwys gyda'n chwaraewyr a'n staff. Mae eu proffesiynoldeb, eu cymeriad a'u llwyddiant yn haeddu cael eu dathlu. 

"Fel Clwb, byddwn bob amser yn eu cefnogi a'u hamddiffyn, a byddwn yn parhau i hyrwyddo amgylchedd sy'n gynhwysol, yn groesawgar ac yn barchus i bawb. 

"Ni fydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn goddef gwahaniaethu o unrhyw fath. Nid yw'r rhai sy'n dal neu'n mynegi barn o'r fath yn rhan o'n cymuned. Os caiff cefnogwyr eu hadnabod, yna byddwn yn gwahardd unigolion o bob safle Clwb Pêl-droed Wrecsam."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.