Donald Trump yn honni bod Iran wedi gofyn am gadoediad

Llun: Reuters
Iran

Mae'r Arlywydd Donald Trump yn honni bod arweinwyr Iran wedi gofyn am gadoediad yn y rhyfel rhwng lluoedd y ddwy wlad.

Mewn neges ar ei blatfform 'Truth Social' ddydd Mercher, dywedodd Mr Trump y byddai ei wlad yn ystyried y cynnig dim ond pan y bydd Culfor Hormuz ar agor.

Dywedodd yn ei neges: "Mae Arlywydd Cyfundrefn Newydd Iran, llawer llai Radicalaidd a llawer mwy deallus na'i ragflaenwyr, newydd ofyn i Unol Daleithiau America am GADOEDIAD! 

"Byddwn yn ystyried pan y bydd Culfor Hormuz ar agor, yn rhydd, ac yn glir. 

Tan hynny, rydym yn chwythu Iran i abergofiant neu, fel maen nhw'n ei ddweud, yn ôl i Oesoedd y Cerrig!!! Arlywydd DJT"

Mae'r arlywydd wedi honni sawl gwaith yn flaenorol ei fod mewn trafodaethau heddwch gyda chyfundrefn Iran - ond mae'r wlad honno wedi gwadu bodolaeth unrhyw drafodaethau heddwch hyd yma.

Anerchiad

Mae disgwyl i Mr Trump annerch ei wlad mewn darllediad o’r Tŷ Gwyn nos Fercher gyda “diweddariad pwysig” am ryfel Iran, meddai.

Nos Fawrth fe awgrymodd y gallai’r wlad fod wedi gorffen ei rhyfel gydag Iran o fewn dwy i dair wythnos.

“Rydyn ni wedi cael newid cyfundrefn,” meddai wrth newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn. “Doedd newid cyfundrefn ddim yn un o’r pethau oedd gen i fel nod. 

“Roedd gen i un nod: na fydden nhw’n cael arf niwclear, ac mae’r nod hwnnw wedi’i gyflawni. Fydd ganddyn nhw ddim arfau niwclear. 

“Ond rydyn ni’n gorffen y gwaith, ac rwy’n meddwl o fewn rhyw bythefnos, neu efallai ychydig ddyddiau’n hirach, y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

“Ond rydyn ni eisiau dinistrio pob un peth sydd ganddyn nhw.”

Dywedodd gweinidog tramor Iran ddydd Mawrth eu bod wedi paratoi ar gyfer “o leiaf chwe mis” o ryfel.

“Nid ydym wedi gosod unrhyw derfynau amser ar gyfer amddiffyn ein hunain,” meddai Abbas Araghchi wrth Al Jazeera.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.