Dedfryd wedi ei gohirio i ddyn 21 oed o Fangor am droseddau yn ymwneud â therfysgaeth
Mae dyn 21 oed o Fangor wedi cael dedfryd wedi ei gohirio am droseddau yn ymwneud â therfysgaeth.
Fe wnaeth Ashton Rees 'arbrofi' gyda gwneud dyfeisiau, ac nid yw rhai ohonynt erioed wedi cael eu hadfer ar ôl iddo eu claddu mewn coetir.
Ddydd Mercher, cafodd Rees ddedfryd o garchar am 12 mis a chyfnod o 12 mis ar drwydded, wedi eu gohirio am ddwy flynedd.
Fe'i cafwyd yn euog ym mis Mawrth o bedwar cyhuddiad o gael cofnod o wybodaeth ddefnyddiol i derfysgaeth yn ei feddiant wedi i ddogfennau gael eu darganfod ar ei ffôn.
Clywodd Llys y Goron Lerpwl ddydd Mawrth ei fod wedi rhannu rhai o'r dogfennau gydag eraill, gan gynnwys un ar fforwm ar-lein Reddit.
Dywedodd Rupert Jones ar ran yr erlyniad fod y diffynnydd yn 'brolio' i eraill mewn neges ar ei ffôn am wneud bom pibell.
Ond dywedodd fod y cofnod ohono’n ffrwydro yn ei ddwylo fel y cafodd ei ddisgrifio "efallai braidd yn amhosibl".
Ychwanegodd fod dwy ddyfais sylfaenol wedi cael eu hadfer o gartref y diffynnydd.
Gofynnodd y Barnwr Brian Cummings KC: "Yn sicr, fe wnaeth arbrofi gyda gwneud dyfeisiau. Ond ydyn ni'n gwybod os y llwyddodd i wneud unrhyw beth yn llygaid y gyfraith a fyddai wedi cael ei ystyried yn arf tanio?"
Ymatebodd Mr Jones drwy ddweud: "Yn syml, dydyn ni ddim yn gwybod hyn oherwydd na chafodd rhai ohonynt erioed eu hadfer."
Dywedodd David Birrell wrth amddiffyn Rees ei fod yn "ddyn ifanc gyda chymeriad da a phositif".
Ychwanegodd fod gan y diffynnydd, a oedd â diagnosis o awtistiaeth, "ddiddordeb obsesiynol o bosibl” mewn gwneud pethau.
"Fe wnaeth y dyfeisiau gartref a'u defnyddio neu eu profi tra ar ei ben ei hun mewn coetir anghysbell lle nad oedd yna unrhyw risg i unrhyw un arall," meddai.
Dywedodd Mr Birrell nad oedd yna unrhyw dystiolaeth fod gan y diffynnydd safbwyntiau eithafol.
Eglurodd y Barnwr Brian Cummings ei fod yn rhoi dedfryd wedi ei gohirio am ei fod yn pryderu y gallai cyfnod o dan glo fod yn ddinistriol i Rees.
Dywedodd: “Trwy gyfuniad o anaeddfedrwydd ag awtistiaeth, daethoch yn agos at groes llinell a fyddai wedi eich arwain at droseddu mwy difrifol, ond ni wnaethoch groesi'r llinell honno.”
Clywodd y llys fod Rees wedi ei ddiarddel o'i brifysgol ar ôl iddo gael ei arestio, ond ei fod bellach yn gweithio ac wedi priodi.
Yn rhan o'r ddedfryd, mae e hefyd wedi ei wahardd am ddwy flynedd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol. Fydd dim modd iddo ddileu ei hanes ar y we na bod yn berchen ar fwy nag un ffôn symudol.
Cafodd orchymyn hefyd i gyflawni 60 diwrnod o weithgareddau adferiad a 200 o oriau o waith di-dâl.
