Gêm gyfartal 1-1 i Gymru yn erbyn Gogledd Iwerddon

Cymru v Gog Iwerddon

Doedd hon ddim yn gêm yr oedd chwaraewyr na chefnogwyr Cymru fyth am ei gweld, yn dilyn y siom o golli yn erbyn Bosnia nos Iau ar giciau o'r smotyn.

Ond chwarae oedd rhaid.

Y tro diwethaf i Gymru herio Gogledd Iwerddon oedd yn rownd yr 16 olaf ym mhencampwriaeth yr Euros, yn ystod yr haf bythgofiadwy hwnnw i'r Wal Goch yn 2016.

Nos Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd, doedd dim gwobr i'r enillydd, ac roedd yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yr haf hwn ar ben.

Roedd pum newid i dîm Cymru ers nos Iau, gyda'r ymwelwyr yn gwneud pedwar newid.

Gydag ychydig dros 20 munud o chwarae, daeth gôl gyntaf y noson i Ogledd Iwerddon ar ôl i ymdrech Jamie Donaldson daro'r pren, cyn iddo ymateb yn gyflym i ergydio'r bêl i gefn y rhwyd.

Amddiffyn llac Cymru oedd yn gyfrifol am roi'r fantais i'r ymwelwyr, er bod Cymru wedi mwynhau'r rhan fwyaf o'r meddiant hyd at hynny.

Fe dyfodd hyder Gogledd Iwerddon drwy weddill yr hanner cyntaf gan amddiffyn yn gadarn a churo'r frwydr am reolaeth, a Chymru'n llac a di-siap.

Image
Cymru v Gog Iwerddon
Joe Rodon yn brwydro am y bêl gyda Jamie Donely 

0-1 oedd y sgôr ar yr hanner, a'r 300 o gefnogwyr oedd wedi teithio i Gaerdydd o Ogledd Iwerddon wrth eu bodd.

O fewn hanner munud i'r ailddechrau, fe lwyddodd Cymru i gipio gôl yn ôl - Sorba Thomas yn unioni'r sgôr ar ôl ymateb i bas gan David Brooks.

Wedi 56 o funudau daeth cyfle arall i Gymru drwy gic gosb - Harry Wilson yn anfon y bêl i droed Neco Williams ag yntau'n ei chrymanu cyn i Pierce Charles ei harbed.

Yn fuan wedyn bu bron i'r ymwelwyr sgorio - peniad nerthol gan Eoin Toal yn cael ei harbed yn gelfydd gan Karl Darlow.

Wedi 71 o funudau cafodd Sorba Thomas a Dylan Lawlor eu heilyddio am Brennan Johnson ag Ethan Ampadu.

Chydig yn ddi-fflach oedd y chwarae erbyn hyn - er i Harry Wilson gael cyfle prin wedi 77 o funudau gydag ergyd aeth tu hwnt i'r rhwyd.

Roedd Gogledd Iwerddon yn amddiffyn yn gadarn, a rhwystredigaeth ymysg chwaraewr Cymru ar gyfnodau.

Fe geisiodd y Wal Goch eu hysbrydoli gyda 10 munud i fynd gan floeddio'r anthem - ond doedd dim ffordd drwy amddiffyn trefnus yr ymwelwyr.

Cafwyd tri munud yn ychwanegol ar ddiwedd y 90, a'r crysau cochion yn rheoli'r chwarae, ond heb lwybr drwy'r crysau gwyn.

Fe gafodd Gogledd Iwerddon gyfle hwyr iawn wedi i beniad Callum Marshall fethu'r targed.

1-1 felly oedd y canlyniad ar y chwiban olaf.

Bydd dyfalu dros ddyfodol Craig Bellamy ar ddiwedd yr ymgyrch yma, gyda llawer yn gobeithio y bydd yn parhau gyda'r gwaith.

Fe fydd chwe mis hir cyn i Gymru chwarae eu gêm gystadleuol nesaf, a Chwpan y Byd i'w gwylio - o bell - yn ystod y cyfnod hwnnw.

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.