Wrecsam: Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 49 oed
Mae ymchwiliad llofruddiaeth wedi cael ei lansio yn dilyn marwolaeth dyn 49 oed yn ardal Wrecsam.
Dywed Heddlu'r Gogledd fod ditectifs yn apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Ychwanegodd y llu fod swyddogion wedi mynychu tŷ yn Rhosllanerchrugog ychydig wedi 12:00 ddydd Gwener lle'r oedd dyn wedi marw o anaf i'w ben.
Mae'r crwner wedi cael gwybod.
Mae swyddogion yn parhau yn y tŷ wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney: "Rydym yn deall drwy ein hymholiadau CCTV fod y dyn a fu farw yn rhan o ffrae gorfforol o gwmpas hanner dydd ar ddydd Iau 26 Mawrth ym maes parcio Bonc Wen yn Rhos.
"Ar yr adeg yma, mae llawer o bobl wedi cael eu gweld yn cerdded heibio, gyda llawer o geir hefyd wedi parcio yn y maes parcio.
"Dwi'n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un oedd wedi parcio yn y maes parcio ar y pryd a sydd â deunydd dashcam, i gysylltu â swyddogion."
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Mahoney fod y digwyddiad yn cael ei drin fel un ynysig, ac nad yw'r heddlu o'r farn fod yna risg ehangach i'r cyhoedd.
"Mae ein meddyliau yn parhau â theulu'r dyn yn ystod y cyfnod anodd hwn," meddai.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod O045989.