Rhyddhau geifr i reoli creigiau geirwon safle treftadaeth
Bydd geifr yn cael eu defnyddio ar Safle Treftadaeth y Byd ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i reoli'r tir yn naturiol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd 18 o eifr Bagot yn cael eu cyflwyno yng Ngwaith Haearn Blaenafon i fynd i'r afael â'r "her wirioneddol" o reoli argloddiau serth ar y safle sydd bellach yn amgueddfa o dan reolaeth Cadw.
Yn wahanol i lawer o dda byw eraill, mae geifr yn bwyta planhigion coediog a ffibrog fel mieri, rhedyn a draenen wen.
Maen nhw'n darparu "manteision gwirioneddol" i fywyd gwyllt drwy deneuo llystyfiant trwm, yn ôl y llywodraeth.
Mae'n dweud bod hynny'n golygu bod golau'n cyrraedd y tir yn well ac yn annog blodau gwyllt, glaswellt a phryfed i ffynnu.
"Yn wahanol i beiriannau sy'n lefelu llystyfiant yn unffurf, mae geifr yn creu amrywiaeth sy'n llawer mwy buddiol i beillwyr a bywyd gwyllt arall," meddai llefarydd.
"Nid oes angen tanwydd na chemegau ar eifr, maent yn cynhyrchu ychydig iawn o wastraff, ac yn helpu i leihau'r ôl troed carbon sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw traddodiadol."
Bydd y geifr yn cael eu darparu a'u rheoli gan Grazing Management Ltd, cwmni rheoli tir sy'n canolbwyntio ar atebion naturiol ar gyfer safleoedd heriol.
Bydd y geifr yn gwisgo coleri ffensio rhithwir ac yn cael eu monitro drwy gamerâu solar 4G.
Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Cadw: "Mae geifr Bagot wedi bod yn rhan o gefn gwlad Cymru ers cenedlaethau, a nawr byddan nhw'n ein helpu i ofalu am y dirwedd ryfeddol hon mewn ffordd sy'n sensitif i'w chymeriad, yn well i fywyd gwyllt ac yn fwy caredig wrth yr amgylchedd.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau eu gweld fel rhan o stori'r safle."
Gwaith Haearn Blaenafon oedd prif ganolfan cynhyrchu haearn de Cymru ac mae bellach yn amgueddfa.
Daeth Tirlun Diwydiannol Blaenafon, sy'n cynnwys y gwaith haearn, yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2000.
