Apêl am dystion yn dilyn adroddiad o geisio herwgipio merch yn ei harddegau yn Sir Benfro
Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn adroddiad am ymgais i herwgipio merch yn ei harddegau cynnar yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dau ddyn mewn car wedi mynd at ferch 12 oed a oedd yn cerdded ar hyd Ffordd Scarrowscant ger Ffordd Parc Furzy yn y dref toc wedi 15.55 ddydd Mawrth diwethaf.
Yn ôl adroddiadau, roedd teithiwr y car wedi camu allan i siarad gyda'r ferch, cyn rhoi ei ddwylo ar ei braich.
Yn fuan wedyn fe ollyngodd ei afael a dychwelodd i'r cerbyd a wnaeth yrru i ffwrdd i gyfeiriad Parc Furzy.
Ni wnaeth y plentyn ddioddef unrhyw anafiadau ac fe ddychwelodd adref a rhoi gwybod i'w rhieni.
Ni wnaeth y gyrrwr adael y car ar unrhyw adeg. Mae'r cerbyd yn cael ei ddisgrifio fel un tebyg i Audi A4, mewn lliw glas sgleiniog.
Mae'r dyn a ddaeth allan o'r cerbyd yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua phum troedfedd 11 modfedd o daldra, gyda gwallt brown tywyll byr a barf frown. Y gred yw ei fod yn ei 40au. Roedd yn gwisgo crys-T du, trowsus joggers du a trainers gwyn.
Ar hyn o bryd nid oes disgrifiad ar gael o'r gyrrwr.
Mae swyddogion bellach yn apelio am dystion i'r digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd o'r cerbyd, gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26*235970.
