Emiliano Sala: Caerdydd yn colli achos llys yn erbyn Nantes
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi colli eu hachos llys yn erbyn Nantes ynglŷn â marwolaeth Emiliano Sala.
Roedd Caerdydd yn ceisio hawlio dros £100 miliwn gan y clwb o Ffrainc, gan ddweud fod yr arian ar gyfer costau trosglwyddo'r pêl droediwr Sala a cholledion enillion eraill.
Bu farw Emiliano Sala yn 28 oed ym mis Ionawr 2019 pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio arni i'r môr ger Ynys y Garn (Guernsey).
Roedd ar ei ffordd o glwb pêl droed dinas Nantes yn Ffrainc, lle’r oedd yn chwarae, i’w glwb newydd yng Nghaerdydd.
Roedd cytundeb gwerth £15m rhwng y clybiau wedi ei gytuno.
Cafodd ef a'r peilot, David Ibbotson eu lladd.
Yn ddiweddarach fe ddaeth hi i'r amlwg bod yr awyren heb drwydded. Ym mis Hydref 2021 cafodd y dyn a wnaeth drefnu'r awyren, David Henderson, ei ganfod yn euog o beryglu diogelwch awyren. Cafodd ddedfryd o 18 mis yn y carchar.
Ond mae'r barnwr yn yr achos llys yn Ffrainc bellach wedi dyfarnu na fydd Caerdydd yn cael iawndal gan Nantes yn dilyn marwolaeth Sala.
Mae Caerdydd hefyd wedi cael eu gorchymyn i dalu mwy na £400,000 mewn costau cyfreithiol i'r clwb.
Roedd Caerdydd wedi ceisio hawlio'r iawndal ar sail y gred y gallai Sala fod wedi gallu cadw'r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe syrthiodd y clwb i'r Bencampwriaeth ar ddiwedd tymor 2018/19 cyn syrthio eto i Adran Un ym mis Ebrill 2025.
