Dringwr yn cael ei achub gan ei ffrind ar ôl disgyn ar fynydd Tryfan
Cafodd dringwr ei achub gan ei ffrind ar ôl disgyn 30 troedfedd ar fynydd Tryfan yn Eryri.
Roedd tri o bobl yn dringo llwybr ar y mynydd yn gynharach yn y mis pan wnaeth y dringwr oedd yn arwain y grŵp ddisgyn 30 troedfedd.
Er ei fod wedi disgyn heibio ei gyd ddringwr, llwyddodd i'w achub drwy ei ddal rhag disgyn ymhellach.
Ni chafodd y dringwr ei anafu'n ddifrifol, ond dioddefodd ei ffrind losgiadau difrifol i'w ddwylo gan y rhaffau.
Roedd hyn yn golygu nad oedd yn gallu parhau gyda'r daith a chafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad.
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: "Fe wnaeth hofrennydd Gwylwyr y Glannau fynd ag aelodau'r tîm i'r mynydd er mwyn codi'r dringwyr i'r copa gyda system achub rhaff dechnegol.
"Ar ôl sicrhau eu bod yn ddiogel, cafodd rhaff diogelwch ei osod ar y claf, ac yna fe aeth i lawr Tryfan gyda'i ddwylo yn yr awyr, gan edrych fel pe baem newydd ei arestio."
Mae Tryfan yn fynydd 3,010 troedfedd o uchder yn Eryri sy'n enwog am ei Grib Gogleddol serth a chreigiog.
Wedi'i leoli yn Nyffryn Ogwen, mae'n un o gopaon uchaf Cymru ac mae angen defnyddio dwylo i ddringo ar bob llwybr.