Cyngor Caerdydd i godi treth ar dwristiaid sy'n aros dros nos

Siopwyr Caerdydd

Bydd Cyngor Caerdydd yn codi treth ar dwristiaid sy'n aros dros nos yn y brifddinas o fis Ebrill 2027.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru roi'r grym i gynghorau lleol i godi treth ar dwristiaid sy'n aros dros ym mis Medi'r llynedd.

Cafodd yr ardoll ei phasio gan y cyngor llawn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a oedd wedi denu bron i 2,000 o ymatebion. O'r rheini, roedd 62% o blaid y cynnig, tra bod 33% yn gwrthwynebu a 5% yn niwtral.

Dywedodd y rhai oedd o blaid y cynllun fod dinasoedd mawr eraill yn y Deyrnas Unedig eisoes wedi cyflwyno ardollau tebyg, ac y gallent helpu i ariannu gwelliannau i dwristiaeth a rheoli effaith digwyddiadau mawr. 

Ond roedd pryderon am yr effaith bosib ar nifer yr ymwelwyr, pwysau ychwanegol ar ddarparwyr llety, a sut y byddai'r arian yn cael ei wario.

Beth fydd y gost?

Fel rhan o'r cynllun, bydd ymwelwyr sy'n aros dros dro yn y rhan fwyaf o lety yn talu £1.30 y pen y noson, tra y bydd pobl sy'n aros mewn hostel neu ar safle gwersylla yn talu 75 ceiniog y pen y noson.

Bydd y dreth yn berthnasol i arosiadau hyd at 31 noson a bydd yn destun TAW lle bo'n berthnasol.

Bydd rhai eithriadau ar waith, gan gynnwys ar gyfer pobl sy'n aros yn hirach na 31 noson, y rhai mewn llety brys neu dros dro sy'n cael eu defnyddio gan y cyngor, a phobl dan 18 oed sy'n aros mewn hostel neu ar faes gwersylla.

Mae disgwyl i'r ardoll godi tua £3.5 miliwn y flwyddyn, gyda'r arian yn cael ei gasglu gan Awdurdod Cyllid Cymru a'i drosglwyddo i'r cyngor. 

Bydd fforwm partneriaeth newydd yn cael ei sefydlu i gynghori ar sut mae'r arian yn cael ei ddefnyddio, gyda ffocws ar gefnogi'r economi ymwelwyr.

Dywedodd y cyngor y bydd yn parhau i weithio gyda busnesau twristiaeth cyn cyflwyno'r cynllun ym mis Ebrill 2027.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.