Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr yn prynu canolfan siopa Y Rhiw am £5.3m
Mae gobeithion y bydd tref Pen-y-bont ar Ogwr gael ei "thrawsnewid' wedi i'r Cyngor Sir gytuno i brynu Canolfan Siopa Y Rhiw am £5.3 miliwn.
Mae’r pryniant yn rhan o gynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n addo “ysgogi newid yn nyfodol” canol y dref.
Mae’r cyngor wedi cadarnhau fod cynllun i agor marchnad newydd, cyfleusterau cyhoeddus ychwanegol, a llety newydd ar ôl iddynt brynu'r safle 2.27 erw.
Fel rhan o’u cynlluniau hirdymor i adfywio canol y dref, fyddent hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau strwythurol yr adeilad.
Mae’r pryderon yma wedi’i dwysau ers i’r hen farchnad wrth ymyl Y Rhiw gau yn 2023 ar ôl darganfyddiad concrit RAAC yn y to, sy’n achosi ansefydlogrwydd strwythurol.
Mae’r cyngor wedi addo y bydd y ganolfan yn dal i weithredu tra bod y cynlluniau newydd yn cael eu datblygu, a fydd busnesau presennol yn cael eu hymgynghori ar unrhyw gynigion, a hefyd yn derbyn cefnogaeth lawn drwy’r cyfnod o ddatblygiadau.
Mae Tim Wood, perchennog siop cigydd lleol, sydd wedi bod ym Mhen-y-bont ers y 60au yn meddwl fod y cynlluniau yma yn “bositif iawn.”
Dywedodd ei fod yn “gobeithio y bydden nhw yn denu fwy o fusnesau i’r ardal, a mwy o fusnesau annibynnol.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, John Spanswick, bod “Y Rhiw wedi bod yn rhan bwysig o ganol y dref am dros 50 mlynedd.”
"Mae gan y gytundeb hwn y potensial i ysgogi newid yn nyfodol canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.”
“Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i drafod ffordd ymlaen, ond roedd ei ddyfodol yn ansicr ar ôl canfod RAAC o fewn isadeiledd yr adeilad.
"O ganlyniad, gall y cyngor nawr amddiffyn Canolfan Siopa Y Rhiw rhag cael ei gwerthu i ddatblygwyr, rheoli unrhyw achosion pellach lle gallai RAAC gael effaith, a rheoli sut y bydd y safle yn cael ei ddefnyddio er budd cyffredinol masnachwyr a thrigolion."
Ychwanegodd aelod o’r cyngor, Delyth Webb, fod hwn yn gyfle i “fuddsoddi yn y dre, a’r bywiogrwydd y rydym ni eisiau i’r bobl leol fwynhau yn y dyfodol.”
Mae pryniant y safle wedi ei ariannu drwy ddefnyddio £2.45m o gronfa Trawsnewid Trefi Lywodraeth Cymru, £1.8m o gyllideb refeniw'r cyngor a £1m o raglen cyfalaf y cyngor.