Gwahardd hela sawr yng Nghymru a Lloegr

Hela

Bydd hela sawr ('trail hunting')  yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr. 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor ddydd Iau i ystyried sut i weithredu'r gwaharddiad.

Mae hela sawr yn weithgaredd ble mae cŵn yn dilyn arogl anifeiliaid sydd wedi ei osod o flaen llaw ar draws cefn gwlad, gan efelychu hela traddodiadol. 

Daeth yn boblogaidd yn y DU ar ôl i Ddeddf Hela 2004 ddod i rym, fel dewis arall yn lle hela llwynogod.

Gall hela sawr arwain at anifeiliaid gwyllt, gan gynnwys llwynogod ac ysgyfarnogod, yn cael eu hanafu neu eu lladd gan gŵn, yn ogystal ag anifeiliaid anwes mewn rhai achosion. 

Mae natur hela sawr yn ei gwneud hi'n anodd i sicrhau nad yw anifeiliaid gwyllt yn cael eu rhoi mewn perygl o ganlyniad i gŵn yn codi eu harogl, yn hytrach na'r hela'r sawr sydd wedi ei osod.

Mae pryderon hefyd yn parhau ynghylch a yw hela sawr yn cael ei ddefnyddio gan rai fel esgus i hela'n anghyfreithlon gyda chŵn.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 18 Mehefin.

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.