Bron i 99% o briffyrdd Cymru wedi’u llygru gan sbwriel

Sbwriel

Mae data newydd gan elusen amgylcheddol fwyaf blaenllaw Cymru yn dangos bod bron i bob priffordd yng Nghymru wedi’i llygru gan sbwriel.

Fe wnaeth arolygon diweddar Cadwch Gymru’n Daclus ddarganfod sbwriel gan gynnwys caniau, bocsys bwyd, a phlastig ar 98.8% o ffyrdd A a B Cymru, ac roedd sbwriel ysmygu i’w weld ar 88.1% o brif ffyrdd.

Fel rhan o ymdrechion yr elusen i gadw Cymru’n daclus, mae gwirfoddolwyr yn cwrdd yn flynyddol ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, gan alw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau, ysgolion a busnesau i weithredu rhwng 13 a 29 Mawrth.

Mae’r elusen yn disgwyl i dros 3000 o wirfoddolwyr weithredu ar draws 200 o ddigwyddiadau glanhau’r ffyrdd ym mis Mawrth eleni, ar gyfer y 10fed blwyddyn yr ŵyl.

Ar gyfer un o ddigwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru eleni, fe wnaeth dros 70 o wirfoddolwyr gwrdd i lanhau ochrau’r ffordd wrth ymyl Taith Taf, ger Merthyr Tudful. 

Cafodd plastig lapio melysion eu darganfod ar 80% o briffyrdd Cymru, gan gynnwys ar hyd Taith Taf. Wrth dacluso, fe wnaeth gwirfoddolwyr hefyd ddarganfod caniau, beiciau, trolis a bocsys bwyd i gyd yn yr afon. 

Dywedodd Judith Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdogaeth, Cyngor Merthyr Tudful, a wnaeth ymuno â’r tacluso: “Mae Taith Taf yn ased mawr i Ferthyr Tudful, mae’n un rydym yn ei werthfawrogi.

“Mae’n teithio o’r gogledd i’r de felly rydym yn frwdfrydig i’w chadw mor lân â phosib fel bod gan ein preswylwyr fynediad i’r awyr agored, ac i ymwelwyr i helpu’r economi twristiaeth.” 

Image
Judith Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdogaeth, Cyngor Merthyr Tudful
Yn ôl Judith Jones o Gyngor Merthyr Tudful, mae angen cadw Taith Taf "mor lân â phosib" ar gyfer pobl leol a thwristiaid

Wythnos yma, roedd gwleidyddion yn y Senedd yn trafod cynllun dychwelyd ar gyfer cynhwysyddion diodydd oherwydd bod ymgyrchwyr yn dweud bod sbwriel yn parhau i gynyddu.

Un o’r rheiny sy’n ymgyrchu i wella ansawdd ein ffyrdd ac yn cefnogi’r cynllun dychwelyd ydy Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.

“Dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, rydym yn bendant wedi gweld cynnydd mewn deunyddiau on the go lle mae pobl yn byrbrydu mwy pan maen nhw allan ac o gwmpas, ac mae hynny i’w weld ar ein strydoedd.

“Felly, nid yn unig oes angen i ni ystyried ein hymddygiad ein hunain, ond mae angen i ni feddwl llawer mwy gofalus am yr effaith rydym yn ei chael ar ein cymunedau lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.