Cymru v Bosnia: Craig Bellamy yn dymuno gweld 'pêl-droed 100 milltir yr awr' gan ei dîm

Cymru v Bosnia: Craig Bellamy yn dymuno gweld 'pêl-droed 100 milltir yr awr' gan ei dîm

Mae Craig Bellamy yn dweud ei fod yn dymuno gweld ei dîm yn chwarae “pêl-droed 100 milltir yr awr” pan fydd Cymru yn herio Bosnia a Herzegovina yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2026 yng Nghaerdydd nos Iau.

Ennill y gêm hon ac fe fydd tîm Craig Bellamy yn mynd ymlaen i wynebu naill ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon gartref nos Fawrth ar gyfer lle yn y gystadleuaeth.

"Mae'n rhaid i ni fynd nerth ein traed," meddai Bellamy mewn cynhadledd ddydd Mercher.

"Pan mae'r bêl yna'n mynd allan am dafliad, tair eiliad wedyn, cael e nôl mewn. Cadw'r tempo yn uchel. Dyna beth mae pobl eisiau gweld, rwy'n teimlo. Rydym ni eisiau pêl-droed 100 milltir yr awr."

Mae Cymru yn gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am yr ail waith yn olynol, ar ôl llwyddo i gyrraedd Qatar yn 2022.

Yn rhan o'r garfan honno, ac yntau'n 21 oed ar y pryd, roedd Ethan Ampadu. 

Yn absenoldeb Aaron Ramsey, Ampadu sydd wedi'i ddewis fel capten Cymru ar gyfer y gemau ail gyfle.

"Fel gwlad, nid just chwaraewyr ond fel cefnogwyr hefyd, rydym eisiau mynd i bob pencampwriaeth posib," meddai mewn cyfweliad â Sgorio.

"Mae gennym yr hyder ein bod yn gallu cymhwyso i bob cystadleuaeth. Dwi'n meddwl ein bod ni hyd yn oed yn fwy penderfynol y tro hwn oherwydd sut y gwnaethom berfformio yng Nghwpan y Byd diwethaf.

"Rydym yn gwybod - ac nid ydym yn cuddio o hynny - nad oeddem ar y lefel yr oeddem eisiau cyrraedd. Rydym yn gwybod y buasem wedi gallu creu mwy, ond mae hynny yn y gorffennol nawr. Nawr, mae cyfle da yno i geisio gwneud yr un peth eto."

Mae Cymru yn rhif 31 yn rhestr detholion y byd FIFA, 40 safle yn uwch na'r ymwelwyr, a gyda'r Wal Goch a'r fantais gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau hefyd, Cymru yw'r ffefrynnau ar bapur.

Ond fe fydd amddiffynnwr Tottenham Ben Davies, ymosodwr Wrecsam Kieffer Moore ac amddiffynnwr West Bromwich Albion Chris Mepham i gyd yn absennol oherwydd anafiadau.

Hwb mawr i Gymru ydy'r ffaith fod ymosodwr Fulham Harry Wilson yn holliach yn dilyn anaf.

Mae Wilson wedi bod yn rhan o 17 o goliau yn ei 20 gêm ryngwladol ddiwethaf yn ogystal â sgorio 10 o goliau i'w glwb y tymor yma.

Mae Cymru wedi ennill pump o'u chwe gêm gystadleuol ddiwethaf gartref.

Bosnia

Mae Bosnia yn gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 2014.

Ar ôl colli gartref yn erbyn Awstria ym mis Medi y llynedd, mae tîm Sergej Barbarez yn ddiguro mewn pedair gêm. 

Un gêm yn unig y gwnaeth y wlad ei cholli yn y rowndiau rhagbrofol, ac roedd eu hamddiffyn yn rhan bwysig wrth gyflawni hynny.

Bygythiad mawr gan yr ymwelwyr fydd eu hymosodwr Edin Dzeko. Er yn 40 oed erbyn hyn, Dzeko oedd prif sgoriwr Bosnia yn y rowndiau rhagbrofol gyda phum gôl. 

Mae Bellamy yn ymwybodol o fygythiad yr ymosodwr, gan ddweud mai'r sefyllfa ddelfrydol i Gymru fyddai i atal Dzeko rhag dylanwadu yn y cwrt cosbi. 

"Po fwyaf o amser y mae o tu allan i'r cwrt cosbi, y gorau ydy hynny i ni, felly mae'n rhaid i ni ei gadw mor bell i ffwrdd â'n gôl â phosib," meddai.

Dim ond pedair gwaith yn unig y mae'r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd, gyda Bosnia yn ennill dwy gêm a dwy gêm gyfartal. 

Bydd modd gwylio'r gêm rhwng Cymru a Bosnia a Herzegovina yn fyw ar S4C o 19.20 ar nos Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.