Teyrnged i fam, 27, fu farw wedi digwyddiad yn Sir y Fflint
Mae teulu menyw fu farw yn dilyn digwyddiad yn Shotton, Sir y Fflint wedi rhoi teyrnged i fam “hyfryd”.
Bu farw Jade Ward, 27 oed, mewn eiddo ar ffordd Chevrnos, Sir y Fflint ddydd Iau.
Mae cyn-ŵr Ms Ward, Russell Norman James Marsh, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Fe wnaeth y dyn 29 oed o Ffordd Chevrons, Shotton, ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
'Byw yn ein calonnau am byth'
Mae teulu Ms Ward wedi dweud y bydd hi’n “byw yn eu calonnau am byth”.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: “Roedd Jade yn ferch hyfryd, bybli a phoblogaidd a oedd yn caru ac yn gofalu am bawb roedd hi'n eu hadnabod, yn enwedig ei phlant.
“Roedd hi'n fam ymroddgar a fyddai'n gwneud unrhyw beth i'w phlant, a ffrind, merch, chwaer, modryb, nith ac wyres annwyl iawn y bydd llawer yn gweld ei heisiau yn fawr.
“Roedd Jade bob amser yn gweld y da ym mhawb, byddai’n rhoi pawb o flaen ei hun ac yn caru anifeiliaid - pe bai hi byth yn gweld rhywun hyd yn oed yn lladd pryf, byddai’n ddig wrthyn nhw.
“Roedd hi’n gymeriad cryf, roedd ganddi ei steil ffasiwn unigryw, roedd hi’n caru ei dillad, ac yn enwedig ei minlliw coch! Hi oedd bywyd ac enaid y parti ac roedd hi bob amser yn dawnsio.
“Fel teulu rydyn ni i gyd wedi torri ein calonnau ar ôl ei cholli. Hi oedd calon y teulu ac yno i ni gyd pryd bynnag yr oeddem ei hangen. Roedd pawb yn ei charu, a chawsom fraint o'i hadnabod a bydd hi'n byw ym mhob un o'n calonnau am byth.”
Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 21000594238.